Proffiliau Staff

Tîm Canolog KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor



Dr Penny DowdneyPenny Dowdney
Rheolwr KESS 2 Cymru / Rheolwr Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor

Mae Penny wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor dros y 15 mlynedd diwethaf. Graddiodd Penny yn wreiddiol o Brifysgol Aberystwyth, cyn symud ymlaen i wneud cyrsiau ôl-raddedig mewn Addysg, gan arbenigo mewn Addysg Uwch ac yn ddiweddarach mewn TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor), EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) ac ESP (Saesneg at Ddibenion Penodol).

Mae wedi gweithio dramor fel athrawes, hyfforddwr athrawon ac ymgynghorydd, gan wneud gwaith mewn Prifysgolion, Colegau ac Ysgolion yn Japan, Korea, Tsieina, De Affrica a Chanol America. Mae ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor wedi ymwneud yn bennaf â gwaith ymgynghori a thiwtora gyda myfyrwyr ôl-raddedig tramor; ysgrifennu, datblygu a chyfarwyddo cyrsiau (gyda meysydd arbenigol gan gynnwys Ysgrifennu Cyfreithiol a Gwyddonol); datblygu deunyddiau; datblygu ac ehangu gwaith ymgynghorol dramor a rhyw gymaint o waith profi a recriwtio dramor (ee sefydlu rhaglenni 2 + 2 yn Tsieina).

Yna symudodd i rôl newydd yn y Swyddfa Ymchwil a Menter fel Rheolwr Datblygu Sgiliau Ymchwil, gan weithio ar y Prosiect Ysgoloriaethau’r Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS), o’r Uned Datblygu Academaidd lle sefydlodd y Rhaglen Sgiliau Graddedigion (hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer ymchwilwyr doethurol). Fel rhan o’r rôl newydd hon bu’n sefydlu Cymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-radd ar gyfer holl gyfranogwyr KESS, ym mhob Prifysgol yng Nghymru.

Yn 2013 penodwyd Penny yn Rheolwr Cymru KESS, gan arwain y prosiect o Fangor gyda thîm canolog a gan gydlynu’r Prifysgolion partner ar draws Cymru. Yn ystod ei hamser fel Rheolwr Cymru KESS mae Penny wedi sefydlu cyswllt traws-genedlaethol cryf i’r prosiect, gan adeiladu cronfa ddata o arbenigedd (ymchwil a chwmnïau) ar draws rhwydwaith o Brifysgolion Ewropeaidd. Roedd KESS yn rhaglen a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a oedd wedi’i hen sefydlu, ac ar y sail hon cyhoeddwyd cyllid o £36 miliwn o arian ESF ar gyfer KESS 2 yng Nghymru, i gefnogi gweithrediad Cymru gyfan am 6 blynedd arall, gan ddarparu 650+ o ysgoloriaethau Doethurol a Meistr Ymchwil sy’n cyplysu academia a diwydiant drwy gydweithio.

Cysylltu: 01248 382266 / p.j.dowdney@bangor.ac.uk



Aashu JayadeepAashu Jayadeep
Gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol

Daeth Aashu i Brifysgol Bangor fel myfyriwr yn y lle cyntaf i wneud ei hail gwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA – Rheoli Gwybodaeth) a graddiodd gyda rhagoriaeth yn 2013. Cafodd gyfle i ymuno â’r Swyddfa Ymchwil a Menter fel rhan o’r prosiect KESS yn 2014 ac ers hynny mae wedi cefnogi’r gwaith o reoli Skills Forge ar gyfer prosiectau Meistr Ymchwil a PhD KESS.

Dechreuodd fel gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol ym mis Rhagfyr 2015 a gyda’i chyfrifoldebau yn y swydd honno mae’n cael cyfle i weithio’n agos â rheolwr yr Ysgol Ddoethurol yn cefnogi’r elfen weinyddu, hyfforddi a datblygu doethurol. Ymysg ei dyletswyddau y mae cydlynu’r rhaglen hyfforddiant Doethurol ar draws Prifysgol Bangor a hyrwyddo’r Ysgol Ddoethurol yn y Brifysgol a thu hwnt. Mae’n gweithio gyda’r gymuned Ddoethurol yn y Brifysgol (myfyrwyr ôl-radd ymchwil, goruchwylwyr academaidd, Cyfarwyddwyr Astudiaethau Graddedig) ac mae hefyd yn gyfrifol am dudalennau gwe’r Ysgol Ddoethurol a’i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.

Ym maes TG a Rheolaeth Addysg Uwch y mae ei chefndir. Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr gyntaf mewn Rhaglenni Cyfrifiadurol yn y College of Engineering Trivandrum (CET), yr India, bu’n gweithio fel hyfforddwr cyfrifiaduron mewn sefydliadau yn yr India ac Oman. Yna bu Aashu yn gweithio i’r Middle East College (MEC), Oman, sef sefydliad Addysg Uwch o fri sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Coventry (DU) fel darlithydd Cyfrifiadureg. Yn ystod ei hamser yn y sefydliad, bu’n gweithio hefyd fel Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi, yn cydlynu a rheoli nifer o wahanol brosiectau oedd yn ymwneud ag Archwilio a Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch. Mae’r holl brofiadau hyn wedi ei helpu i gael gwybodaeth werthfawr am weinyddu a rheoli ym maes addysg uwch.

Cysylltu: 01248 382357 / a.jayadeep@bangor.ac.uk


Mererid Haf Gordon
Swyddog Dylunio, Marchnata a Chyhoeddusrwydd KESS 2

Mae Mererid wedi’i lleoli gyda’r tîm KESS 2 canolog ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi elfennau marchnata, cyhoeddusrwydd a chyfathrebu gweledol y prosiect. Mae hyn yn cynnwys casglu a rhannu newyddion a straeon llwyddiant KESS 2, cyd-gynllunio digwyddiadau allweddol gyda’r tîm a chynhyrchu deunyddiau marchnata newydd tra’n monitro cysondeb ac arddull y brand yn gyffredinol. Ochr yn ochr â Rheolwr Cymru KESS 2, mae Mererid yn bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid KESS 2 ledled Cymru i roi arweiniad ar ddulliau marchnata megis cyfryngau cymdeithasol, taflenni gwybodaeth, posteri, y wefan, canllawiau brandio gan helpu i gydlynu ymdrechion marchnata yn ôl yr angen.

Mae Mererid wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor er mis Mehefin 2013, gan ymuno â thîm KESS ym mis Rhagfyr 2014. Arferai weithio ar y rhaglen a noddwyd drwy’r UE, GO Wales, ac felly mae ei phrofiad o brosiectau sy’n gweithredu drwy arian allanol o’r math hwn yn addas iawn wrth weithio i gyfleu nodau ac egwyddorion sylfaenol KESS 2.

A hithau wedi ennill ei BA (anrh) mewn Celfyddydau Graffeg yn 2011, mae maes arbenigedd Mererid yn caniatáu iddi gyfuno ei gwybodaeth gefndirol gyda sgiliau cyfathrebu a dylunio gweledol wrth greu deunydd newydd ar gyfer KESS 2, gan weithio’n greadigol i farchnata ac ennyn cyhoeddusrwydd i’r prosiect.

Cysylltu: 01248 388715 / m.h.gordon@bangor.ac.uk



Sandra RobertsSandra Roberts
Swyddog Monitro KESS 2

Mae Sandra yn gyfrifol am fonitro cynnydd a chanlyniadau ysgoloriaethau KESS 2, ar gyfer Prifysgol Bangor a phrifysgolion eraill yng Nghymru sy’n bartneriaid yn y cynllun. Mae’n delio â’r system rheoli data ar gyfer y prosiect i gasglu a chyflwyno adroddiadau am allbynnau ar gyfer Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), ac mae’n ofynnol iddi gynorthwyo gyda gwybodaeth ar gyfer archwiliadau a gwiriadau dilysu. Mae hefyd yn cydlynu cyrsiau sefydlu ar gyfer myfyrwyr, academyddion a goruchwylwyr cwmnïau.

Bu Sandra gyda’r Brifysgol er 1990. Treuliodd saith mlynedd yn y Swyddfa Gyllid ac wedyn fel Uwch Swyddog Clercyddol a Swyddog Cefnogi Prosiectau ar gyfer y Swyddfa Ymchwil a Menter. Mae hi wedi gweithio gyda phrosiectau a ariannwyd gan ESF ar gyfer ardaloedd Amcan 1, 3, 5b ac ardaloedd y rhaglen Gydgyfeirio, ysgoloriaethau Meistr a addysgir yn bennaf. Y rhai mwyaf diweddar oedd Mynediad i Gyrsiau Meistr (dan arweiniad Prifysgol Abertawe) a KESS (dan arweiniad Bangor), mae’r prosiectau ESF cydweithredol hyn yn ariannu prosiectau Meistr (ATM) a phrosiectau PhD a Meistr Ymchwil (KESS). Mae ei phrofiad yn cynnwys asesu pwy sy’n gymwys gyda cheisiadau ysgoloriaeth, paratoi contractau, datblygu a chynnal systemau data, rheoli taflenni amser a chyflogau myfyrwyr, monitro ariannol ac anariannol, a gwneud adroddiadau ar gyfer WEFO, archwiliadau a gwerthuswyr allanol.

Cysylltu: 01248 382501 / s.l.roberts@bangor.ac.uk


Dawn DaviesDawn Davies
Cydlynydd Ariannol Prosiect KESS 2 Dwyrain

Mae Dawn yn gweithio yn y swyddfa gyllid, gyda Brian Murcutt, ac yn darparu cymorth gweinyddol ac ariannol ar gyfer prosiect KESS 2. Mae prif gyfrifoldebau Dawn yn cynnwys paratoi hawliadau rheolaidd ar gyfer darpariaeth Bangor, cyhoeddi a chadw golwg ar anfonebau am gyfraniadau ariannol y cwmnïau sy’n bartneriaid yn KESS 2, sicrhau bod myfyrwyr yn gymwys a chydlynu’r broses o dalu lwfansau cyflog misol i’r myfyrwyr ar amser ar ôl iddynt gyflwyno eu taflenni amser. Hi hefyd sy’n gweinyddu’r wybodaeth gyllidebol reolaidd ar gyfer myfyrwyr ac academyddion ac mae’n cynorthwyo gydag archwiliadau a gwiriadau dilysu KESS 2.

Mae Dawn wrthi’n astudio ar gyfer ei chymhwyster AAT, i ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth ymhellach. Yn ei hamser hamdden mae Dawn yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a’i hanifeiliaid anwes. Mae hi’n ddilynwr selog ar dîm rygbi ei mab (RGC – Rygbi Gogledd Cymru) ac fel teulu maent yn mwynhau mynd i gynifer o gemau â phosibl i ddangos eu cefnogaeth.

Cysylltu: 01248 382846 / d.davies@bangor.ac.uk


Dafydd Jones
Swyddog Dylunio, Marchnata a Chyhoeddusrwydd KESS 2

Mae Dafydd yn rhan o dîm canolog KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n cefnogi agweddau marchnata, cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddusrwydd y prosiect ochr yn ochr â Mererid. Mae Dafydd hefyd yn cynorthwyo Rheolwr KESS 2 Cymru â phostio hysbysebion ysgoloriaeth ac yn chwarae rhan bwysig yn helpu i gasglu astudiaethau achos a straeon newyddion o bob rhan o Gymru.

Graddiodd Dafydd o Brifysgol Bangor gydag MA mewn Busnes a Marchnata yn 2019. Mae’n mwynhau ffotograffiaeth yn ei amser hamdden, bob amser gyda chamera mewn llaw wrth ymweld â lleoedd newydd ac threulio amser gyda theulu a ffrindiau.

Cysylltu: 01248 388524 / abu43f@bangor.ac.uk