Cynhaliodd tîm KESS 2 ym Mhrifysgol Caerdydd ddigwyddiad cymdeithasol gyda sgyrsiau a chyflwyniadau dan arweiniad myfyrwyr KESS 2 yng Nghaerdydd. Nod y digwyddiad oedd adeiladu cymuned KESS 2 lle rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr a ariennir gan y rhaglen ddod i adnabod ei gilydd a rhannu syniadau.