Paratoi Datganiad i’r Wasg

Mae datganiadau i’r wasg yn ddefnyddiol ar gyfer tynnu sylw’r cyfryngau at eich prosiect neu eich llwyddiannau unigol. Yn KESS 2, rydym yn hoffi clywed am gynnydd a newyddion da ein holl gyfranogwyr! Os ydych chi’n Fyfyriwr, yn Academydd, yn Bartner Cwmni neu’n Gyn-fyfyriwr, gall tîm KESS 2 eich helpu chi i hybu a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch straeon a’ch gweithgareddau drwy’r dudalen Newyddion ac ar Twitter @KESS_Central.

Dyma ambell awgrym a chyngor i’ch helpu chi i ysgrifennu datganiad i’r wasg effeithiol:

1. Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth yn deilwng o le yn y newyddion

  • Eitemau newyddion yw datganiadau i’r wasg a dylent gynnwys gwybodaeth sy’n deilwng o sylw newyddion: mae hynny’n golygu gwybodaeth newydd a manwl gywir sy’n amserol, yn berthnasol ac yn ddiddorol.
  • Gofynnwch i chi eich hun, “Sut mae hyn yn berthnasol i fywyd bob dydd? Sut mae’n effeithio ar y dyn ar y stryd? Pam ddylen nhw fod â diddordeb yn yr hyn sydd gen i i’w ddweud?”
  • Gall y pynciau fod yn ymchwil newydd/datblygiadau newydd, digwyddiadau anarferol neu unigryw, llwyddiannau nodedig iawn gan randdeiliaid neu fyfyrwyr, ymweliadau pwysig neu ddigwyddiadau.
KESS 2 Annual Event 2017

Cofiwch gynnwys llun i gyd-fynd â’ch datganiad. Gall lluniau benderfynu a yw stori’n cael ei defnyddio ai peidio!

2. Cadwch bethau’n syml

  • Dylai datganiadau i’r wasg ddefnyddio iaith bob dydd, gan osgoi geiriau a brawddegau hir (ceisiwch gadw’r brawddegau’n llai na 25 gair).
  • Peidiwch â defnyddio gormod o jargon. Os oes rhaid defnyddio iaith academaidd, mae cyflwyno cyd-destun neu enghreifftiau o help, i gyfathrebu’r pwnc yn effeithiol i gynulleidfa heb fod yn academaidd.
  • Byddwch yn fyr ac yn gryno. Peidiwch â defnyddio mwy na 450 o eiriau ac mae cyfanswm sy’n nes at 250 yn well.
  • Ysgrifennwch ddatganiadau i’r wasg yn y trydydd person. Defnyddiwch ‘mae o’, ‘mae hi’ a ‘maen nhw’ yn hytrach na ‘rydw i’ ‘rydym ni’ a ‘ni’
  • Peidiwch â “hysbysebu”. Newyddion ydi’r maes. Cadwch at y ffeithiau.

3. Cydnabod ein cyllidwyr

Mae holl brosiectau KESS 2 yn cael eu cyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhaid cydnabod hynny. Gwnewch yn siŵr bod pob stori’n cynnwys cyfeiriad at gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a KESS 2 – gall hyn hefyd helpu i wneud y stori’n ddiddorol oherwydd mae’n dangos sut mae cyllid yr UE o fudd i ymchwil a datblygu yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio’r testun canlynol at ddiben cyfeirio, neu ei gynnwys yn eich stori:

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch ledled Cymru sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Caiff ei hariannu’n rhannol gan raglen cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

4. Strwythuro eich datganiad i’r wasg

  • Wrth ysgrifennu eich stori, mae pum peth yn hanfodol fel canllaw: Pwy, Beth, Ble, Pryd a Pham.
  • Ysgrifennwch y darn pwysicaf o wybodaeth neu’r elfen fwyaf trawiadol yn y paragraff cyntaf (Pwy, Beth, Ble, Pryd)
  • Mae’r paragraffau canlynol yn chwarae rôl ategol, gan ychwanegu mwy o wybodaeth a safbwyntiau neu farn bersonol mewn dyfyniadau. Rhowch y stori yn ei chyd-destun – Pam mae’n bwysig a sut daeth i fod.
  • Cofiwch gynnwys manylion cyswllt bob amser (rhif ffôn ac e-bost) ar waelod y datganiad i’r wasg a gwnewch yn siŵr bod y person cyswllt a enwir ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau, rhag i chi golli unrhyw gyfleoedd dilynol am gyhoeddusrwydd.
Inverted Pyramid

5. Ac yn olaf…

  • Meddyliwch am ddelweddau i gyd-fynd â’ch datganiad a chofiwch gynnwys llun os yw hynny’n bosib – gall lluniau benderfynu a yw stori’n cael ei defnyddio ai peidio.  Hefyd ystyriwch gynnwys fideos/delweddau’n symud ar gyfer cynnwys ar-lein.
  • Meddyliwch pwy fydd ar gael i roi unrhyw gyfweliadau/ateb unrhyw gwestiynau pellach a hefyd a fydd siaradwr Cymraeg ar gael.
  • Cytunwch ar ddyddiad rhyddhau ar gyfer y stori – ar gyfer straeon ymchwil, efallai y bydd rhaid i chi ystyried cyfrinachedd/protocol rhyngrwyd/embargo.
  • Rhaid i ddatganiadau i’r cyfryngau fod yn ddwyieithog. Gall tîm canolog KESS 2 helpu gyda chael cyfieithiad o’r testun terfynol y cytunwyd arno. Anfonwch e-bost i kess2@bangor.ac.uk am help.

Cysylltiadau defnyddiol:

Gallwch glicio i lawrlwytho’r canllaw defnyddiol yma: Paratoi Datganiad i’r Wasg (PDF)  [yn agor mewn tab newydd]

Gellir cael rhagor o gyfarwyddyd am ddatganiadau i’r cyfryngau o Swyddfa’r Wasg eich Prifysgol neu eich Cwmni. Ar gyfer Prifysgol Bangor ewch i: https://www.bangor.ac.uk/ccm/press-office.php.en [yn agor mewn tab newydd]

The Guardian: How to write an effective press release gan Janet Murray (Gorffennaf 2014) https://www.theguardian.com/small-business-network/2014/jul/14/how-to-write-press-release [yn agor mewn tab newydd]

ProCopywriters: How to write an effective press release gan Lorraine Forrest-Turner (Medi 2015) https://www.procopywriters.co.uk/2015/09/how-to-write-an-effective-press-release/ [yn agor mewn tab newydd]

Nid yw KESS 2 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.