Mae datganiadau i’r wasg yn ddefnyddiol ar gyfer tynnu sylw’r cyfryngau at eich prosiect neu eich llwyddiannau unigol. Yn KESS 2, rydym yn hoffi clywed am gynnydd a newyddion da ein holl gyfranogwyr! Os ydych chi’n Fyfyriwr, yn Academydd, yn Bartner Cwmni neu’n Gyn-fyfyriwr, gall tîm KESS 2 eich helpu chi i hybu a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch straeon a’ch gweithgareddau drwy’r dudalen Newyddion ac ar Twitter @KESS_Central.
Dyma ambell awgrym a chyngor i’ch helpu chi i ysgrifennu datganiad i’r wasg effeithiol:
1. Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth yn deilwng o le yn y newyddion
- Eitemau newyddion yw datganiadau i’r wasg a dylent gynnwys gwybodaeth sy’n deilwng o sylw newyddion: mae hynny’n golygu gwybodaeth newydd a manwl gywir sy’n amserol, yn berthnasol ac yn ddiddorol.
- Gofynnwch i chi eich hun, “Sut mae hyn yn berthnasol i fywyd bob dydd? Sut mae’n effeithio ar y dyn ar y stryd? Pam ddylen nhw fod â diddordeb yn yr hyn sydd gen i i’w ddweud?”
- Gall y pynciau fod yn ymchwil newydd/datblygiadau newydd, digwyddiadau anarferol neu unigryw, llwyddiannau nodedig iawn gan randdeiliaid neu fyfyrwyr, ymweliadau pwysig neu ddigwyddiadau.
2. Cadwch bethau’n syml
- Dylai datganiadau i’r wasg ddefnyddio iaith bob dydd, gan osgoi geiriau a brawddegau hir (ceisiwch gadw’r brawddegau’n llai na 25 gair).
- Peidiwch â defnyddio gormod o jargon. Os oes rhaid defnyddio iaith academaidd, mae cyflwyno cyd-destun neu enghreifftiau o help, i gyfathrebu’r pwnc yn effeithiol i gynulleidfa heb fod yn academaidd.
- Byddwch yn fyr ac yn gryno. Peidiwch â defnyddio mwy na 450 o eiriau ac mae cyfanswm sy’n nes at 250 yn well.
- Ysgrifennwch ddatganiadau i’r wasg yn y trydydd person. Defnyddiwch ‘mae o’, ‘mae hi’ a ‘maen nhw’ yn hytrach na ‘rydw i’ ‘rydym ni’ a ‘ni’
- Peidiwch â “hysbysebu”. Newyddion ydi’r maes. Cadwch at y ffeithiau.
3. Cydnabod ein cyllidwyr
Mae holl brosiectau KESS 2 yn cael eu cyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhaid cydnabod hynny. Gwnewch yn siŵr bod pob stori’n cynnwys cyfeiriad at gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a KESS 2 – gall hyn hefyd helpu i wneud y stori’n ddiddorol oherwydd mae’n dangos sut mae cyllid yr UE o fudd i ymchwil a datblygu yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio’r testun canlynol at ddiben cyfeirio, neu ei gynnwys yn eich stori:
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch ledled Cymru sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Caiff ei hariannu’n rhannol gan raglen cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
4. Strwythuro eich datganiad i’r wasg
- Wrth ysgrifennu eich stori, mae pum peth yn hanfodol fel canllaw: Pwy, Beth, Ble, Pryd a Pham.
- Ysgrifennwch y darn pwysicaf o wybodaeth neu’r elfen fwyaf trawiadol yn y paragraff cyntaf (Pwy, Beth, Ble, Pryd)
- Mae’r paragraffau canlynol yn chwarae rôl ategol, gan ychwanegu mwy o wybodaeth a safbwyntiau neu farn bersonol mewn dyfyniadau. Rhowch y stori yn ei chyd-destun – Pam mae’n bwysig a sut daeth i fod.
- Cofiwch gynnwys manylion cyswllt bob amser (rhif ffôn ac e-bost) ar waelod y datganiad i’r wasg a gwnewch yn siŵr bod y person cyswllt a enwir ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau, rhag i chi golli unrhyw gyfleoedd dilynol am gyhoeddusrwydd.
5. Ac yn olaf…
- Meddyliwch am ddelweddau i gyd-fynd â’ch datganiad a chofiwch gynnwys llun os yw hynny’n bosib – gall lluniau benderfynu a yw stori’n cael ei defnyddio ai peidio. Hefyd ystyriwch gynnwys fideos/delweddau’n symud ar gyfer cynnwys ar-lein.
- Meddyliwch pwy fydd ar gael i roi unrhyw gyfweliadau/ateb unrhyw gwestiynau pellach a hefyd a fydd siaradwr Cymraeg ar gael.
- Cytunwch ar ddyddiad rhyddhau ar gyfer y stori – ar gyfer straeon ymchwil, efallai y bydd rhaid i chi ystyried cyfrinachedd/protocol rhyngrwyd/embargo.
- Rhaid i ddatganiadau i’r cyfryngau fod yn ddwyieithog. Gall tîm canolog KESS 2 helpu gyda chael cyfieithiad o’r testun terfynol y cytunwyd arno. Anfonwch e-bost i kess2@bangor.ac.uk am help.
Cysylltiadau defnyddiol:
Gallwch glicio i lawrlwytho’r canllaw defnyddiol yma: Paratoi Datganiad i’r Wasg (PDF) [yn agor mewn tab newydd]
Gellir cael rhagor o gyfarwyddyd am ddatganiadau i’r cyfryngau o Swyddfa’r Wasg eich Prifysgol neu eich Cwmni. Ar gyfer Prifysgol Bangor ewch i: https://www.bangor.ac.uk/ccm/press-office.php.en [yn agor mewn tab newydd]
The Guardian: How to write an effective press release gan Janet Murray (Gorffennaf 2014) https://www.theguardian.com/small-business-network/2014/jul/14/how-to-write-press-release [yn agor mewn tab newydd]
ProCopywriters: How to write an effective press release gan Lorraine Forrest-Turner (Medi 2015) https://www.procopywriters.co.uk/2015/09/how-to-write-an-effective-press-release/ [yn agor mewn tab newydd]
Nid yw KESS 2 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.