Mae Nicole Marie Hughes, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, wedi llwyddo i gael cyhoeddi papur yng nghylchgrawn BMC Palliative Care. Bu Nicole yn gweithio ar y cyd â phedair hosbis yng Ngogledd Cymru; Hosbis yn y Cartref (Gwynedd ac Ynys Môn), Hosbis Dewi Sant (Llandudno), Hosbis St Kentigern (Llanelwy) a Thŷ’r Eos (Wrecsam) i asesu’n ansoddol ac yn feintiol yr effeithiau a gaiff hosbisau ar randdeiliaid pwysig. Mae hosbisau’n darparu gofal i gleifion sy’n dioddef o gyflyrau terfynol neu sy’n cyfyngu ar eu bywyd a’u teulu sy’n rhoi gofal iddynt. Fodd bynnag, mae’r hosbisau’n mynd ymhellach na dim ond rheoli meddyginiaethau, poen a symptomau ac yn gofalu am y claf a’i deulu fel uned mewn modd holistig; gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymorth cymdeithasol, ysbrydol ac o ran llesiant.
Yn anffodus, oherwydd fod adnoddau ariannol yn brin, a’r galw mawr o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio, mae hosbisau dan bwysau cynyddol. Oherwydd hynny, mae angen i hosbisau ddangos gwerth eu gweithgareddau mewn modd sy’n taro tant gyda chyllidwyr posibl. Mae’r PhD hwn yn defnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) nid yn unig i roi cyfrif am werth economaidd hosbisau ond hefyd i ddangos eu heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond un elfen o’r SROI yw’r adolygiad systematig a gyhoeddwyd ac mae’n gam cyntaf o ran canfod beth sydd orau gan gleifion a theuluoedd. Drwy osod rhanddeiliaid allweddol fel cleifion ac aelodau o’r teulu sy’n ofalwyr wrth galon y broses hon, mae’r fframwaith yn cynnig mwy o ddealltwriaeth ynghylch sut y caiff pobl eu heffeithio gan weithgareddau hosbisau a’r gwerth a roddant ar y gwasanaethau. Bydd gwneud hynny’n hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o oblygiadau ehangach a gwerth Hosbisau yng Ngogledd Cymru, yn helpu i ddatblygu ymyriadau a gwasanaethau cymorth a darparu pwynt cyfeirio ar gyfer hosbisau i hyrwyddo’u heffaith a denu cyllid i’r dyfodol.
Caiff prosiect ymchwil PhD Nicole ei gefnogi gan KESS 2 Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru a chan noddwyr cwmni Hosbis yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn (Jayne Emsley), Hosbis Dewi Sant (Tristan Pritchard) Hosbis St Kentigern (Iain Mitchell) a Thŷ’r Eos (Steve Parry). Mae’r prosiect yn gydweithrediad yn y diwydiant gyda thîm goruchwylio ym Mhrifysgol Bangor (Yr Athro Jane Noyes a Dr Julia Wardaugh).
Gellir gweld copi llawn o’r papur a gyhoeddwyd, sef “What do patients and family-caregivers value from hospice care? A systematic mixed studies review” yma: https://bmcpalliatcare.biomedcentral.com/articles/10.1186/s12904-019-0401-1