Gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem o ucheldiroedd Cymru: Ashley Hardaker myfyriwr ar raglen KESS 2 yn cyhoeddi papur mewn cyfnodolyn rhyngwladol ‘Ecosystems Services’

Ashley Hardaker

© Hardaker et al. (2020)

Yn ddiweddar cyhoeddodd Ashley Hardaker myfyriwr PhD ar raglen KESS 2 ei bapur cyntaf o’i PhD yn y cyfnodolyn Ecosystem Services (Impact Factor 5.572). Ar hyn o bryd mae Ashley yn nhrydedd flwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2 gan weithio ar y cyd â Choed Cymru CYF ac mae ei bapur yn amcangyfrif gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan ddefnydd tir ar ucheldiroedd Cymru.

Tir pori dwysedd isel ar gyfer defaid a gwartheg (sy’n cynnwys tua 80% o’r ardal) yw’r defnydd tir mwyaf  yn ucheldiroedd Cymru, gydag ardaloedd llai yn cynhyrchu coed meddal o ansawdd uchel ar raddfa fach bob yn ail ag ardaloedd o goetir amwynder anghynhyrchiol (sy’n cynnwys yr 20% sy’n weddill).   Mae potensial mawr o ran gwerth i ddefnydd tir yn ucheldiroedd Cymru o safbwynt darparu gwasanaethau ecosystem — sydd o fudd i gymdeithas — na fanteisir arno ar hyn o bryd.

Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn yr ucheldiroedd yn darparu nifer o fuddion ychwanegol ‘nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad’  (gan gynnwys cyflenwi dŵr, dal a storio carbon, lliniaru llifogydd a chyflogaeth) yn ogystal â buddion ‘marchnad’  fel  da byw, cnydau âr a chynhyrchu coed. Mae’r papur hwn yn amcangyfrif mai gwerth economaidd y buddion a geir o’r gwasanaethau ecosystem hyn yw £1.47 biliwn y flwyddyn. Mae anfanteision hefyd i gymdeithas yn sgil y defnyddiau tir hyn (gan gynnwys ansawdd dŵr is ac allyriadau nwyon tŷ gwydr) sydd, yn ôl amcangyfrifon, yn arwain at gostau economaidd o £101.5 miliwn y flwyddyn.

Prif ganfyddiad y papur hwn yw’r anghydbwysedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau ecosystem rhwng buddion preifat (a ddaw i ffermwyr, tirfeddianwyr a chwmnïau preifat) a buddion cyhoeddus (i gymdeithas). O dan y cyfuniad presennol o amaethyddiaeth a choedwigaeth yn ucheldiroedd Cymru, mae £1.3 biliwn y flwyddyn (88%) o fuddion gwasanaeth ecosystem yn fuddion preifat ond dim ond £170 miliwn y flwyddyn (12%) sy’n fuddion cyhoeddus. Gallai hyn ddeillio’n rhannol o fylchau mewn gwybodaeth a thystiolaeth gyfyngedig yn ymwneud â gwasanaethau ecosystem cyhoeddus ychwanegol, gan gynnwys buddion diwylliannol fel hamdden ac amwynder tirwedd yn ogystal â buddion eraill o ran rheoleiddio megis cynnal a chadw ansawdd dŵr o goetiroedd ar lannau afonydd. Wedi dweud hynny, mae’r papur yn dadlau bod lle i gynyddu buddion gwasanaeth ecosystem cyhoeddus o ucheldiroedd Cymru.

Cefnogir prosiect ymchwil PhD Ashley gan KESS 2 a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru a gan y noddwyr Coed Cymru Cyf. Mae’r prosiect yn gydweithrediad sy’n seiliedig ar ddiwydiant gyda thîm goruchwylio wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bangor (Dr Tim Pagella a Dr Mark Rayment) a Gareth Davies (Coed Cymru Cyf).

Teitl y papur cyhoeddedig llawn yw “Integrated assessment, valuation and mapping of ecosystem services and dis-services from upland land use in Wales” gellir ei weld yma: https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S2212041620300401