Gweminar Hybu Cig Cymru (HCC) : Ymchwilio Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru

Yn 2019 daeth y DU y wlad gyntaf i ddeddfu targed net sero o allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae amaethyddiaeth yn cyfrif am oddeutu 10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU felly mae’r sector o dan bwysau sylweddol i ostwng y ffigwr hwn. Ar 22 Chwefror, cynhaliodd partner cwmni KESS 2, Hybu Cig Cymru (HCC) weminar yn canolbwyntio ar Ymchwilio i Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru. Fe’i gyflwynwyd gan Dr Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ochr yn ochr â dau o’i fyfyrwyr PhD a ariannwyd gan KESS 2, Louise McNicol a Joe Jones. Nod y weminar hon oedd tynnu sylw at rywfaint o’r ymchwil sy’n mynd rhagddi i amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru.

Derbyniodd y weminar ymateb rhagorol gan gofnodi ychydig o dan 100 yn mynychu ar-lein. Cafwyd ymgysylltiad sylweddol gan y mynychwyr yn y sesiwn Holi ac Ateb, a arweiniodd at nifer o drafodaethau diddorol, ac roedd yr adborth a gafwyd ar ôl y digwyddiad yn arbennig o galonogol ar gyfer y dyfodol yn y maes ymchwil hwn.

Meddai Dr Prysor Williams,

“Roedd yn dda iawn cael y cyfle i gyflwyno ar y cyd efo Louise a Joe – dau fyfyriwr PhD disglair wnaeth ymuno efo ni yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn yr hydref [2020]. Maent yn gwneud gwaith arloesol a phwysig iawn, fydd yn ei dro yn helpu’r sector amaeth i gyrraedd rhai o’r targedau amgylcheddol uchelgeisiol sy’n ei wynebu. Roedd hi’n amlwg fod cryn ddiddordeb yn eu gwaith, ac rydym yn ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am roi’r cyfle i gael cyflwyno’r gwaith ymchwil rydym yn ei wneud ym Mhrifysgol Bangor”.

Ychwanegodd Louise trwy ddweud,

“Gan mai dim ond ym mlwyddyn gyntaf fy astudiaethau yr wyf ar hyn o bryd, roeddwn yn ddiolchgar i HCC am y cyfle gwych i gymryd rhan yn y weminar hon a rhannu rhai o fy nghanfyddiadau cychwynnol gyda’r rhanddeiliaid yn y sector. Trwy ddarparu trosolwg byr o fy mhrosiect a chyflwyno rhai o fy nodau ar gyfer y dyfodol, cefais gyfle i ddangos fy mrwdfrydedd ar gyfer fy PhD i eraill yn y diwydiant. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu mwy o fy nghanfyddiadau PhD yn y dyfodol. ”

A dywedodd Joe,

“Roedd yn gyfle gwych i siarad am fy ngwaith. Rwy’n teimlo bod hyn yn fudd mawr o system ariannu KESS 2 gan ei fod yn ein cysylltu â phartneriaid cwmni ac yn rhoi llwyfan i ymchwilwyr ifanc drafod eu gwaith. Edrychaf ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol lle gallaf siarad am fy ngwaith yn fwy manwl. “

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil isod ac mae recordiad o’r weminar ar gael i’w wylio yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/hcc-tv

 

Sbotolau Academaidd

Dr Prysor Williams

Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Mae gen i ystod eang o ddiddordebau ymchwil sydd fel arfer yn eistedd ar y rhyngwyneb rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd o amgylch adnoddau organig (slyri, tail, ac ati), pathogenau, ymwrthedd i wrthfiotigau, a phriddoedd. Ar ôl gweithio ar nifer o brosiectau rhyngddisgyblaethol mawr, rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb sylweddol yn y trafodaethau parhaus ynghylch defnyddio tir (dwysáu cynaliadwy, danfon nwyddau cyhoeddus, ac ati).

Rwy’n eistedd ar nifer o bwyllgorau allanol ac yn aml yn ymgysylltu â diwydiant.

Proffil Academaidd Llawn: https://www.bangor.ac.uk/natural-sciences/staff/prysor-williams/cy

The Research Projects

Louise McNichol

Strategaethau i gyrraedd cynhyrchu cig eidion a defaid di-garbon ar ffermydd Cymru

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar fesur ôl troed carbon a modelu senarios lliniaru. Hyd yn hyn, rwyf wedi ymchwilio i’r gwahaniaethau allweddol rhwng rhai cyfrifianellau carbon ac wedi dangos sut y gall y gwahaniaethau hyn effeithio ar yr ôl troed carbon sy’n deillio o hynny. Rwyf hefyd wedi dechrau archwilio senarios allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero ar gyfer rhai ffermydd yng Nghymru, ac yn gobeithio parhau â’r gwaith hwn ar lefel fferm, cyn ystyried modelu ffyrdd y gellid cyflawni’r targedau net sero ar lefel genedlaethol.

 

Joe Jones

Pennu’r potensial ar gyfer Pori Manwl Gywir i wella gwydnwch systemau cynhyrchu da byw

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar arolwg sydd â’r nod o ddeall yn well y systemau pori defaid a gwartheg presennol. Bydd hwn yn cael ei ryddhau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr esbonio pam fod ganddyn nhw’r systemau pori sydd ganddyn nhw, a pha rwystrau all fod i wella’r systemau hynny. Yn y dyfodol, byddaf yn cynnal treialon pori a fydd yn archwilio gwahanol systemau rheoli pori ac yn eu gwerthuso ar sail eu heffaith economaidd ac amgylcheddol.