Dr Christian Dunn


Mae’r gwyddonydd gwlyptiroedd Dr Christian Dunn yn rhannu ei brofiad o gwblhau PhD trwy KESS 2. Mae’n sôn am ei ymchwil PhD a edrychodd ar greu credydau carbon gan ddefnyddio mawndiroedd, ei lwybr gyrfa a’r cyfleoedd dilynol a ddaeth yn dilyn ei gyfranogiad KESS 2.

Mirain Llwyd Roberts


Cyd-gysylltydd Pontio’r Cenedlaethau Mirain Llwyd Roberts yn sôn am ei phrofiad o gwblhau gradd Meistr drwy Ymchwil gyda KESS 2. Yn ystod ei chyfnod astudio, mynychodd Mirain nifer o gynadleddau, gyda’r mwyaf nodedig yn Portland, UDA lle cafodd y cyfle i gyflwyno ei gwaith ymchwil a magu mwy o hyder mewn siarad cyhoeddus.

Dr Rhiannon Chalmers-Brown


Biocemegydd Dr Rhiannon Chalmers-Brown yn siarad am ei phrofiad PhD KESS 2; ei llwybr gyrfa, y cyfleoedd a roddir wrth astudio trwy KESS 2, yn ogystal â rhwystrau bywyd y bu’n rhaid iddi eu goresgyn er mwyn cwblhau ei PhD. Mae hi hefyd yn rhannu’r heriau a wynebir fel menyw sy’n gweithio mewn diwydiant dur sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.

John Likeman


Mae John Likeman, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni datblygu meddalwedd Gwylan UK Ltd. yn rhoi adroddiad partner cwmni o ymgymryd ag ymchwil a datblygu trwy KESS 2. Mae’n sôn am sut, yn dilyn eu cydweithrediad KESS 2, mae’r cwmni wedi cynyddu i’r entrychion a dod yn arweinydd diwydiant yn eu maes.

Dr Liz Morris-Webb


Mae’r gwyddonydd cefnfor Dr Liz Morris-Webb yn rhannu ei phersbectif ar gyfranogiad KESS 2, fel ymchwilydd PhD ac fel goruchwyliwr cwmni. Gan weithio ac ymchwilio ym maes cadwraeth forol, mae’n rhoi disgrifiad gonest o’i phrofiad KESS 2, pam y penderfynodd wneud ymchwil trwy KESS 2 a’r heriau a wynebwyd ac a orchfygwyd yn y broses.

Dr Sopan Patil


Mae Dr Sopan Patil, darlithydd Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, yn sôn am ei brofiad o gydweithio â KESS 2 o safbwynt goruchwyliwr academaidd. Mae’n rhannu uchafbwyntiau a heriau prosiectau ymchwil cydweithredol 3-ffordd, manteision pontio’r bwlch rhwng diwydiant a’r byd academaidd, ac yn rhoi rhywfaint o gyngor i fyfyrwyr PhD.

Yr Athro James McDonald


Yr Athro Ecoleg Microbaidd James McDonald yn siarad am y manteision niferus o fod yn rhan o brosiect KESS 2 o safbwynt goruchwyliwr academaidd. Mae’n rhannu ei fewnwelediad am ymchwil cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a’i “reolau aur” ar gyfer gweithio gyda goruchwylwyr academaidd.

Alastair Richards


Alastair Richards, Prif Swyddog Gweithredol North West Cancer Research, yn rhannu persbectif partner cwmni o ymchwil gydweithredol a gychwynnwyd trwy KESS 2. Mae’n sôn am sut mae eu prosiectau ymchwil yn cael eu harwain yn academaidd a sut y gall cronfeydd ESF trwy KESS 2 ddenu mwy o ymchwilwyr o safon er mwyn cynyddu gwybodaeth ac astudiaeth canser.