
Mae ymgeisydd PhD KESS 2 o Brifysgol Bangor, Anastasia Atucha, wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf yn y cyfnodolyn Forestry. Mae ymchwil Anastasia yn canolbwyntio ar astudio goddefgarwch rhew y sbriws Sitka (Picea sitchensis).
Disgwylir i newid yn yr hinsawdd ostwng lefelau difrod rhew y rhywogaeth goed masnachol bwysig sbriws Sitka ym Mhrydain, oherwydd bod sbriws Sitka yn rhywogaeth a gyflwynwyd yn wreiddiol o ogledd America. Mewn cyferbyniad, disgwylir i rywogaethau brodorol gael eu heffeithio’n ddifrifol gan newidiadau mewn ffenoleg a yrrir gan yr hinsawdd, megis amseriad byrstio blagur, pan nad yw’n effeithio’r rhywogaethau a gyflwynir.
Dywed Anastasia,
“Rwy’n credu mai’r rhan allweddol yma yw nad yw amseru byrstio blagur yn cael unrhyw effaith o gwbl ar lefelau difrod rhew mewn sbriws Sitka. Mae’n ymddangos bod cymaint o ymdrechion bridio ac ymchwil ar oddefgarwch rhew yn canolbwyntio ar osgoi byrstio blagur yn gynnar. Mae dangos nad oes gan hyn unrhyw bwysigrwydd yn y DU yn ddefnyddiol i ganolbwyntio ymdrech fridio tuag at nodau mwy defnyddiol.
Er bod yr ymchwil yn dangos bod disgwyl i newid yn yr hinsawdd leihau lefelau cyffredinol y difrod rhew mewn sbriws Sitka, mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd ynghylch ffactorau eraill. Er enghraifft, gall sychder cynyddol luosi unrhyw effeithiau rhew. Nid yw’r ymchwil hwn yn golygu y dylai bridwyr anwybyddu goddefgarwch rhew – yn hytrach, ni ddylent fynd ar ôl y ‘penwaig coch’ sef byrstio blagur cynnar. ”

Dywedodd Andy Smith, cyd-oruchwyliwr,
“Mae modelu manwl Anastasia wedi galluogi asesiad cadarn o’r risg yn y dyfodol o ddifrod rhew i blanhigfeydd coedwigoedd masnachol ledled y DU. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canlyniadau’n llywio rhaglenni bridio coed er mwyn sicrhau bod rhaglenni coedwigo yn fwy effeithlon. ”
Ychwanegodd Katherine Steele, cyd-oruchwyliwr,
“Mae goddefgarwch rhew yn gymhleth, felly mae’r canfyddiad hwn yn helpu i ddiystyru un o’r nodweddion cydran posibl mewn sbriws Sitka”.
Cefnogir prosiect ymchwil PhD Anastasia gan Maelor Forest Nurseries Ltd. a dyrannwyd Cronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) i KESS 2 trwy Lywodraeth Cymru. Goruchwylir ei phrosiect gan Dr Andy Smith a Dr Katherine Steele ym Mhrifysgol Bangor.
Gellir gweld y papur cyhoeddedig llawn yn: https://academic.oup.com/forestry/advance-article/doi/10.1093/forestry/cpab020/6276258?searchresult=1