
Mae llawer o gyfranogwyr yn ysgrifennu neu’n blogio yn ystod eu hymchwil MRes neu PhD, boed ar gyfer eu Prifysgol, ar gyfer llwyfannau megis The Conversation, neu wefannau annibynnol partneriaid cysylltiedig.
Rhowch wybod i ni os ydych yn ysgrifennu neu blogio!
✏️ Os ydych chi eisoes yn ysgrifennu, rhowch wybod i ni! Rydym bob amser yn awyddus am eich straeon ac mae gwefan KESS 2 yn llwyfan perffaith ar gyfer rhannu eich cynnwys. Os ydych eisoes wedi ysgrifennu erthygl blog a hoffech ehangu’ch cynulleidfa, gallwn ail-rannu* eich cynnwys ar wefan KESS 2 – Ebostiwch kess2@bangor.ac.uk
🤔 Os hoffech chi ysgrifennu ac nad oes gennych lwyfan i’w wneud, mae KESS 2 yma i chi. Cyflwynwch eich blogiau neu erthyglau i kess2@bangor.ac.uk a gallwn weithio gyda’n gilydd i rannu’ch cynnwys ar wefan KESS 2.
Beth yw’r manteision:
- Amlygiad a chyhoeddusrwydd ychwanegol ar gyfer eich prosiectau ymchwil ac i chi fel ymchwilydd proffesiynol
- Hyblygrwydd i ysgrifennu erthyglau heb gyfyngiadau hyd gyda neu heb luniau, wrth eich dewis
- Ymarfer da ar gyfer cyfathrebu’ch ymchwil drwy’r cyfryngau
- Bydd KESS 2 yn rhannu’ch cyflwyniadau ar Twitter a Facebook!
*Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd perthnasol gan eich partneriaid, os bydd angen, cyn cyflwyno erthygl.
Erthyglau diweddar gan gyfranogion:
(English) Exercise can fast-track your workplace well-being – here’s how