Covid Chronicles (Sain a Blog): Adam Williams o Brifysgol Caerdydd yn rhannu ei brofiadau cyfnod cloi

Mae Croniclau Covid yn gyfres o straeon gan gyfranogwyr KESS 2 mewn ymateb i’r pandemig Covid-19. Dyma bost blog a recordiad sain gan Adam Williams o Brifysgol Caerdydd:

Pan ysgrifennwyd ef yn Tsieinëeg, mae’r term ‘argyfwng’ yn cynnwys dau gymeriad. Mae un yn cynrychioli perygl a’r llall yn cynrychioli cyfle.

Er bod y pandemig a cyfnod cloi Covid-19 wedi bod yn her ac yn frwydr bersonol, ar gyfer fy PhD a fy ngyrfa fel ymchwilydd mae wedi agor llawer o ddrysau, rywbeth rwy’n amau ​​y byddai llawer o fyfyrwyr PhD eraill yn cytuno ag ef. Dyma fy nhaith hyd yn hyn:

Wythnos cyn y cloi cenedlaethol ym mis Mawrth 2020, fe oedd perygl ar y gorwel. Ataliwyd fy astudiaeth rhag casglu cyfranogwyr ar gyfer cyfweliad ac roedd oedi mewn moeseg ar gyfer prosiect meintiol. Nid oedd yn edrych yn dda! Fodd bynnag, hwn oedd fy her cyntaf i oroesi. Er bod oedi wedi bod wrth gasglu data, penderfynais ddefnyddio’r amser hwn i wneud rhywfaint o ddarllen ac ysgrifennu. Cwblheais ddrafftiau cyntaf o ddwy adran fethodoleg ac adroddiad interim ychydig yn hirach na’r hyn sy’n ofynnol (7000 o eiriau, wps!). Gan aros yn gymharol gadarnhaol, ond wedi diflasu ar ysgrifennu, roeddwn yn falch pan ymddangosodd y don newydd o waith.

Yn gyntaf, cytunodd fy ngoruchwylwyr a minnau y gallwn greu astudiaeth arolwg. Mae un o fy mhrosiectau yn defnyddio data eilaidd a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ledled Cymru. Oherwydd y pandemig, ni fyddai’r data hwn yn cael ei ddarparu i mi tan ar ôl y cyfnod cloi. Yn ystod yr amser hwn roedd yn debygol y byddai newid dramatig yng nghyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, oherwydd maint y profion ac oherwydd newidiadau mewn ymddygiad dynol. I nodi’r hyn oedd yn digwydd, crëwyd arolwg i archwilio’r ffactorau hyn. Roedd gan yr astudiaeth hon fater ychwanegol o gyfyngiad amser, heb wybod pryd na sut y byddai’r cyfnod cloi genedlaethol yn dod i ben. Fe wnaeth hyn fy rhoi mewn sefyllfa o fod angen cwblhau casglu data yn gyflym. Yn rhyfeddol, o fewn 5 mis, roeddwn wedi mynd o ddechrau fy nghais moeseg i fod wedi cwblhau casglu data – cyflymder ymchwil mae’n debyg na fyddaf byth yn ei weld eto. Mewn cyfweliadau swydd yn y dyfodol, os gofynnir i mi pa mor dda rwy’n gweithio i derfynau amser byr, mae gen i enghraifft wych.

Nesaf, gallai cam cyfweld fy astudiaeth ddechrau gyda’r cafeat y byddai’r cyfweliadau eu hunain yn cael eu cynnal ar-lein. Wrth edrych yn ôl, credaf fod hyn wedi rhoi mantais fawr imi gan fy mod wedi gallu ymestyn cyrhaeddiad cyfweliadau o bell, ledled Cymru, a gwella’r sgwrs ar gwestiynau mwy sensitif, rhywbeth na fyddai wedi bod yn gyraeddadwy pe bawn i’n cynnal y cyfweliadau wyneb yn wyneb.

Arweiniodd Covid-19 at greu astudiaeth arolwg, gwelliannau i astudiaethau presennol a llawer o ysgrifennu. Ond roedd hefyd yn darparu cyfleoedd mewn meysydd eraill. Wrth weithio ar fy arolwg, llwyddais i gynnal prosiect ymchwil ar gyfer Dinasoedd Trac Cyflym Caerdydd, menter a ddatblygwyd gan yr UNAIDS gyda’r nod o ddod â throsglwyddo HIV i ben erbyn 2030. Ataliodd y cyfnod clo eu hymgynghoriad cymunedol a ddyluniwyd i helpu nodi profiadau ac anghenion y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghaerdydd. Fe wnaethant benderfynu defnyddio arolwg ar-lein ac, gan fy mod yn datblygu fy arolwg fy hun ar y pryd, ymgymerais â’r prosiect hwn ar eu cyfer. Yna ehangodd y cyfle imi ysgrifennu adroddiad o’r canfyddiadau, sydd i’w ddosbarthu i swyddogion Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd.

O’r cyfle gwych hwn gyda Dinasoedd Trac Cyflym Caerdydd, rwyf wedi profi sut mae ymchwil yn cael ei chynnal y tu allan i’r byd academaidd ac wedi dysgu sut i ysgrifennu i’w lledaenu’n gyhoeddus. Yn rhyfeddol, ni ddaeth y cyfleoedd i ben yno. Deuthum yn gyd-awdur mewn erthygl mewn cyfnodolyn am effaith gynnar mesurau pellhau cymdeithasol ar ymddygiad rhywiol defnyddwyr proffylacsis cyn-amlygiad HIV yng Nghymru. Cyfrannais hefyd at raglen Astudiaethau Doethurol Goruchwylio Epigeum, lle cefais fy nghyfweld am fy mhrofiad o ysgrifennu doethuriaeth a derbyn adborth effeithiol i’w gynnwys yn y cwrs. Mae hyd yn oed ysgrifennu’r blog hwn yn gyfle na fyddwn i wedi’i gael oni bai am y pandemig.

Mae fy mhrofiad yn ystod yr amseroedd digynsail hyn wedi dangos i mi fod cyfle hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf annhebygol. Oherwydd natur fy mhrosiect roeddwn yn gallu addasu a pharhau â fy ymchwil lle na allai llawer o rai eraill. Ac er fy mod yn deall bod y cyfleoedd a gefais yn amhrisiadwy, ni allwn ddweud ei bod wedi bod yn hawdd. Roedd arwahanrwydd byw ac ymchwilio ar fy mhen fy hun, ynghyd â theimladau o fod heb unrhyw reolaeth dros y sefyllfa, yn annioddefol ar brydiau, ond fe oedd plymio i fewn i’m gwaith yn fy arwain drwyddo. Ac roedd yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn un o fy nghyfleoedd mwyaf hefyd yn darparu ymdeimlad o falchder wrth imi orfod cyfrannu tuag at waith yn canolbwyntio ar ddileu HIV, clefyd yr amcangyfrifir ei fod wedi hawlio bywydau 33 miliwn o bobl hyd yma. Wrth edrych yn ôl, ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddai cymaint o brofiadau newydd yn deillio o argyfwng byd-eang, ond mae wedi fy nysgu i geisio gweld y cyfleoedd mewn pethe hyd yn oed pan fydd amseroedd yn ymddangos yn enbyd.


Proffil Ymchwiliwr

Adam Williams
Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Disgyblaeth Academaidd: Meddygaeth Poblogaeth

Ar hyn o bryd mae Adam yn cwblhau ei ymchwil PhD yn yr Ysgol Feddygaeth, a leolir yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd. Derbyniodd MSc Seicoleg Iechyd gan Brifysgol Caerfaddon ac o hyn enillodd ddiddordeb mewn ymddygiad iechyd ac iechyd y cyhoedd. Nod ei ymchwil gyfredol yw deall yr effaith y mae Proffylacsis Cyn-Amlygiad HIV (PrEP, meddyginiaeth ar gyfer atal HIV) yn ei chael ar gyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac ymwrthedd gwrthfiotig ymysg dynion hoyw a deurywiol yng Nghymru.

Yn glinigol, mae ganddo ddiddordeb mewn archwilio ymddygiadau sy’n gysylltiedig â lledaeniad afiechydon heintus, sut i frwydro yn erbyn y rhain, a dod â throsglwyddiad heintiau penodol fel HIV i ben. Yn fethodolegol, mae’n ystyried ei hun yn ymchwilydd dulliau cymysg sydd â diddordeb mewn defnyddio methodolegau meintiol ac ansoddol i driongli canlyniadau, gan gynhyrchu dealltwriaeth gynhwysfawr o bynciau.