Mae Croniclau Covid yn parhau gyda hunluniau gorchudd wyneb KESS 2!

Fel rhan o’r gyfres #CroniclauCovid, mae KESS 2 wedi darparu gorchuddion wyneb i gyfranogwyr i’w helpu i barhau â’u hymchwil a’u bywydau beunyddiol yn ddiogel. Isod mae oriel o hunluniau a anfonwyd atom, a gallwch ddilyn y duedd wrth iddi barhau ar Twitter @KESS_Central #CroniclauCovid

(Uchod) Dywed Trys Burke o Brifysgol Bangor mai ei her fwyaf yn ystod y pandemig oedd methu â mynd i’r coleg a sgwrsio â phobl eraill, “Rwy’n colli’r rhyngweithio dyddiol, pethau gwirion fel cwestiwn syml y gellid ei ateb ar unwaith gan gydweithiwr, a mae’n cymryd gymaint o amser i weithio allan pan ydych chi ar eich pen eich hun. Yr hyn sydd wedi fy helpu drwodd yw’r staff yn yr adran TG sydd wedi bod yn anhygoel yn ystod yr amser hwn ac wedi fy helpu’n aruthrol – diolch yn fawr iawn i chi i gyd “.

 

 

Send us your KESS 2 mask selfies! Email: kess2@bangor.ac.uk