Coladu tystiolaeth gyfredol ar reoli poblogaeth rhywogaethau bywyd gwyllt : Owain Barton yn cyhoeddi ei bapur cyntaf yn PLoS ONE

A photograph of two fallow deer

Mae Owain Barton, ymgeisydd PhD KESS 2 o Brifysgol Bangor, wedi cyhoeddi ei bapur cyntaf yn y cyfnodolyn academaidd PLoS ONE (Ffactor Effaith 3.24). Mae Owain yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y defnydd o goetiroedd ar raddfa tirwedd gan hyddod brith ac fe’i cynhelir mewn cydweithrediad â Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (www.gwct.org.uk/wales) a’r Gymdeithas Ceirw Prydain (www.bds.org.uk).

Amcan yr astudiaeth hon oedd nodi a choladu tystiolaeth gyfredol ar effeithiau rheoli poblogaeth rhywogaethau bywyd gwyllt (ceirw a moch gwyllt/geifr/defaid yn y DU). Dros y degawdau diwethaf, mae toreth ac amrediad daearyddol y rhywogaethau bywyd gwyllt wedi ehangu mewn sawl rhan o Ewrop, gan gynnwys y DU. Rheolir poblogaethau i liniaru eu heffeithiau ecolegol gan ddefnyddio ymyriadau fel saethu, ffensio ag atal cenhedlu.

Mae rhagweld sut y bydd rhywogaethau targed yn ymateb i ymyriadau yn hanfodol ar gyfer datblygu strategaethau rheoli cynaliadwy. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd y dystiolaeth o effeithiau ymyriadau ar rywogaethau bywyd gwyllt yn aneglur. Mae tystiolaeth ar gyfer effeithiau rheoli poblogaeth ar rywogaethau bywyd gwyllt yn tyfu ond mae ar hyn o bryd yn gyfyngedig ac wedi’i ddosbarthu’n anghyson ar draws mathau o ymyriadau, canlyniadau ag amryw o rywogaethau.

Dywed Owain,

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein hymchwil mewn cyfnodolyn mynediad agored. Mae croeso i bawb gyrchu’r wybodaeth a’i defnyddio i wella ein dealltwriaeth o sut mae rhywogaethau bywyd gwyllt yn ymateb i reolaeth. Mae’n gam cwbl hanfodol i sicrhau bod ein harferion yn effeithiol ac yn gynaliadwy.”

Ychwanegodd goruchwyliwr Owain, Dr Graeme Shannon,

“Mae Owain wedi gwneud gwaith rhagorol yn casglu’r dystiolaeth sydd ar gael ar effeithiau rheolaeth ar fioleg rhywogaethau bywyd gwyllt, sydd wedi datgelu mewnwelediadau hollbwysig i gyflwr y wybodaeth yn ogystal â bylchau allweddol yn ein dealltwriaeth. Mae’n wych gweld yr ymchwil hwn yn cael ei gyhoeddi – yn enwedig gan mai hwn yw papur cyntaf Owain, yn ogystal â chyhoeddiad cyntaf y grŵp ymchwil ceirw ehangach ym Mhrifysgol Bangor”.

Gellir gweld y cyhoeddiad yma:

“The effects of population management on wild ungulates: A systematic map of evidence for UK species” – Owain Barton, Amy Gresham, John R. Healey, Line S. Cordes, Graeme Shannon

https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0267385