Yn ddiweddar, enillodd Elizabeth Williams, cyfranogwr KESS 2 o Brifysgol Caerdydd, y ‘Wobr Dewis y Bobl’ yng nghystadleuaeth Traethawd Tair Munud (3mt) Mathemateg a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021. Trefnwyd y 3mt gan bennod myfyrwyr SIAM-IMA o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd ac roedd y gystadleuaeth yn agored i bob myfyriwr PhD mathemateg yng Nghymru, gyda phanel beirniadu o phob wyth Prifysgol yng Nghymru.
Mae cystadleuaeth 3mt yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD gyflwyno trosolwg o’u hymchwil mewn tri munud yn unig. Cyflwynodd Elizabeth drosolwg o ran o’i hymchwil o’r enw “Defnyddio Eiddilwch fel Mesur ar gyfer Rhagfynegiad Ysbyty” gan drafod pam fod y maes hwn yn bwysig ar gyfer ymchwil. Yna cymharodd Elizabeth ddau glaf â gwahanol arosiadau ysbyty a gweld sut y gallai defnyddio sgôr eiddilwch wahaniaethu rhwng y ddau glaf hyn.
Mae ymchwil PhD Elizabeth, dan oruchwyliaeth Dr Daniel Gartner a’r Athro Paul Harper, yn gweithio ar y cyd â’r tîm Clinical Futures ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan ganolbwyntio ar ragfynegiadau galw a llwybrau gofal cleifion oedrannus ac eiddil yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae peth o’r gwaith dadansoddeg rhagfynegol yn cynnwys dadansoddi’r ffactorau a fydd yn effeithio ar hyd arhosiad cleifion oedrannus / eiddil mewn ysbytai. Bydd y modelu mathemategol yn penderfynu faint o welyau sydd eu hangen ar gyfer y cleifion hyn mewn gwahanol leoliadau gofal iechyd.
Meddai Elizabeth,
“Roedd gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth 3mt wedi rhoi cyfle i mi gyfleu fy ymchwil i gyfoedion ac arbenigwyr o ystod eang o gefndiroedd mathemategol. O ganlyniad i’r digwyddiad, roedd yn anrhydedd i mi dderbyn y ‘’Wobr Dewis y Bobl’ am hoff sgwrs a ddewiswyd gan y gynulleidfa. ”
Ariennir ymchwil Elizabeth trwy Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2), menter sgiliau lefel uwch ledled Cymru dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i ariennir yn rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.