Llif gwaith ar gyfer cymeradwyo a dechrau prosiect
1. Cynigion prosiect KESS 2 yn cael eu cyflwyno i alwad KESS 2.
2. Cynigion prosiect KESS 2 yn cael eu cymeradwyo gan banel mewnol a’u hanfon at WEFO i’w cymeradwyo.
3. Pob parti sy’n ymwneud â phrosiectau cymeradwy yn cael gwybod bod y prosiect wedi’i gymeradwyo ynghyd â’r camau nesaf.
4. Cymerir camau i ymchwilio i statws credyd cwmni, a chyhoeddir contractau cwmni yn unol â hynny (cyn penodi Ymchwilydd Ôl-raddedig yng ngham 6).
5. Swyddfa KESS 2 yn diweddaru cronfa ddata o ysgoloriaethau ymchwil ar gyfer mynediad.
6. Yr ysgol academaidd yn dewis Ymchwilydd Ôl-raddedig KESS 2:
a. Enwi’r ymgeisydd (ewch yn syth i gam 7)
b. Hysbysebu’r ysgoloriaeth, llunio rhestr fer (ar y cyd â chynnal archwiliadau cymhwysedd cychwynnol), cyfweliadau a’r ysgol yn penodi i raglen academaidd (cyllid KESS 2 heb ei ddyfarnu eto; rhaid i gontract y cwmni fod ar waith).
7. Tîm KESS 2 i gynnal archwiliadau cymhwysedd a dyfarnu cyllid KESS 2 pan fydd cymhwysedd wedi’i gadarnhau. Diweddaru’r daenlen.
8. Yr ymgeisydd a benodir yn gwneud cais i PB drwy’r system Ceisiadau Uniongyrchol; Derbyniadau’n cael gwybod bod cyllid KESS 2 ar waith; ni fydd cynnig yn cael ei wneud nes bydd contract y cwmni ar waith.
9. Os yw’n gynnig amodol, bydd yr ymgeisydd yn cysylltu â swyddfa KESS 2 a derbyniadau pan fodlonir yr amodau.
10. Yr ymgeisydd yn derbyn cynnig drwy’r system DA ar-lein.
11. Cadarnhau ei fod wedi’i gofrestru.
12. Yr ymgeisydd yn llofnodi contract myfyriwr KESS 2 sy’n ysgogi taliadau cyflog (ar ôl derbyn taflen amser wedi’i dilysu).
1. Llenwi’r taflenni amser
- Mae’n rhaid i Ymchwilwyr Ôl-raddedig sy’n cael eu cyllido gan KESS 2 gyflwyno copi caled o daflen amser fanwl bob mis, ac mae’n rhaid ei llofnodi/cymeradwyo gan eu goruchwylwyr. Mae’r drefn hon yn cymryd llawer o amser a gofynnwyd a oes modd symleiddio’r broses. Cafwyd trafodaeth wedi hynny a nodwyd y canlynol:
- Fel ymateb i’r cais ynglŷn â’r posibilrwydd o lenwi’r taflenni amser ar-lein, nodwyd nad oes gan Ymchwilwyr Ôl-raddedig fynediad i fewngofnodi i Agresso, sef y system a ddefnyddir gan staff. Mae Agresso wedi’i gysylltu ag adroddiadau Adnodau Dynol a’r gyflogres; felly, gan fod staff yn defnyddio’r system, nid oes modd caniatáu i Ymchwilwyr Ôl-raddedig sy’n cael eu cyllido gan KESS 2 ddefnyddio’r drefn hon.
- Mae Rheolwr KESS 2 Cymru wedi cael trafodaethau yn rheolaidd gyda chyllidwyr KESS 2 er mwyn ceisio cytuno i gyflwyno taflenni amser ar-lein. Nid yw ein cyllidwyr yn fodlon cytuno i hynny ar hyn o bryd.
- Un o ofynion yr UE yw mai copïau caled o daflenni amser, gyda’r llofnodion gwreiddiol, sy’n cael eu cyflwyno. Mae’r rhain yn cael eu gwirio’n aml yn ystod archwiliadau.
- Croesawyd blwch cyflwyno ar Safle’r Ysgol Gwyddorau Eigion, lle bydd Ymchwilwyr Ôl-raddedig yn gallu cyflwyno eu taflenni amser cyn iddyn nhw gael eu casglu gan yr Ysgol Ddoethurol, ac mae bellach ar waith.
Mae gwybodaeth ynghylch faint o fanylion sydd angen ei nodi ar y taflenni amser ar gael yn yr adran ‘lawrlwytho’ / ‘taflenni gwybodaeth’ ar wefan KESS 2. Mae enghreifftiau a chanllawiau i’w gweld yma: https://kess2.ac.uk/cy/downloads/
2. Canllawiau caffael
Mae’n rhaid i holl staff ac ôl-raddedigion PB gydymffurfio â gweithdrefnau Caffael PB, ac nid cyfranogwyr / goruchwylwyr KESS 2 yn unig. Rydym ni’n cydnabod ei fod yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth.
Rydym wedi cynnig hyfforddiant i holl gyfranogwyr a goruchwylwyr KESS 2, yn ogystal â’r rheolwyr cyllid sy’n ymwneud â KESS 2. Cyflwynwyd yr hyfforddiant hwn ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd y sleidiau o’r hyfforddiant hwnnw eu rhoi ar wefan KESS 2, ac maen nhw ar gael i’w gweld yma: https://kess2.ac.uk/downloads/ yn yr adran ‘Cynefino’ o dan ‘Lawrlwytho’. Nodaf mai dim ond hyfforddiant ar gyfer staff sydd wedi’i ddarparu gan Gyllid PB.
Gall hybiau gweinyddol gynghori par. caffael a phrynu.
Os oes gan y cyfranogwyr unrhyw amheuon, byddwn yn eu cynghori i ymgynghori’n uniongyrchol â Thîm Caffael PB:
Nicola Day | Cyfarwyddwr Caffael | 8675 | n.h.day@bangor.ac.uk |
Llyr Williams | Rheolwr Caffael | 2057 | llyr.williams@bangor.ac.uk |
Mae Llyr a Nicola yn barod iawn i helpu, ac maen nhw’n ymateb yn sydyn i ymholiadau.
3. Polisi ar gyfer absenoldeb salwch
Gwnaed cais i dîm contractau KESS 2 egluro’n union faint o amser y gall Ymchwilydd Ôl-raddedig ei golli oherwydd salwch gyda nodyn meddygol. Ystyriwyd bod geiriad y contract presennol yn amwys ac fe allai arwain at gamddehongli; mae hefyd yn wahanol i bolisi Adnoddau Dynol y Brifysgol a chontractau Ôl-raddedig eraill sy’n cael eu cyllido.
Fel arfer mae KESS 2 yn ymdrin â salwch ym mhob achos ar wahân. Os yw Ymchwilydd Ôl-raddedig yn absennol oherwydd salwch hirdymor, gellir eu cynghori i roi’r gorau i’w hastudiaethau dros dro ac yna gallant hawlio budd-dal salwch yn ystod y cyfnod hwnnw; mae’r llwybr hwn yn golygu nad ydyn nhw’n colli amser a neilltuwyd ar gyfer cwblhau’r PhD. Mae modd i Ymchwilydd Ôl-raddedig dderbyn taliad pan fyddan nhw’n absennol oherwydd salwch am hyd at fis, ond dim ond os ydyn nhw’n dangos nodyn meddygol. Gall problemau godi os methir â dangos nodyn meddygol. Ystyrir achosion o’r fath yn unigol. Byddai achosion o salwch tymor hwy yn cael eu trin drwy drafodaeth wyneb yn wyneb i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael a phenderfynu ar y llwybr mwyaf priodol i’r unigolyn.
Cadarnhawyd nad oes angen i Ymchwilwyr Ôl-raddedig dalu’n ôl am yr amser yr oedden nhw i ffwrdd yn sâl, fel yr awgrymwyd yng nghanlyniadau arolwg CNS KESS 2. Mae’n bosibl bod geiriad y contract wedi’i gamddeall.
Cytunwyd bod angen edrych ar eiriad contract myfyrwyr KESS2 ac y bydd cyfnod mamolaeth o 6 mis yn cael ei ychwanegu. Mae’r tîm KESS2 yn gweithio ar bolisi mamolaeth / mabwysiadu / polisi absenoldeb rhieni ar y cyd KESS 2 ar hyn o bryd, a bydd hwnnw hefyd yn cael ei fwydo i mewn i’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi iddo gael ei gwblhau.
4. Polisi mamolaeth / mabwysiadu / polisi absenoldeb rhieni ar y cyd KESS 2
Fel uchod, mae polisi mamolaeth / mabwysiadu / absenoldeb rhieni ar y cyd KESS 2 yn cael ei gytuno ar hyn o bryd. Rydym wedi trafod hyn gyda’n cyllidwyr ac wedi neilltuo cyllid KESS 2 canolog i’n galluogi i dalu am gyfnodau mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu wrth iddynt godi.
5. Mynediad at gyfleusterau argraffu canolog ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig KESS 2
Does dim terfyn ar faint o ddeunydd y gall pob ymchwilydd ôl-raddedig KESS 2 yng Ngholeg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg ei argraffu yn rhad ac am ddim. Sylwch, fodd bynnag, fod y Brifysgol yn gofyn yn garedig iddyn nhw, fel y mae’n gofyn i’r staff, yn unol â’i dyheadau i fod yn Brifysgol gynaliadwy sy’n cael llai o effaith amgylcheddol, i osgoi argraffu dogfennau yn ddiangen, ac i beidio â defnyddio lliw oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol.
Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’r argraffydd gyda’ch cerdyn myfyriwr, fe ddylech gael y neges argraffu ‘diderfyn’, ac mae’n bosibl y bydd gennych falans negyddol – mae hyn yn normal, gan eich bod yn argraffu â chredyd am ddim. Cysylltwch ag Antony Halsall, rheolwr y coleg, (a.halsall@bangor.ac.uk) os nad ydych yn gallu argraffu, ac fe wnaiff drefnu mynediad.
6. Adolygiad blynyddol o gyllidebau prosiect KESS 2
Mae tîm KESS 2 yn adolygu cyllidebau prosiect KESS 2 bob blwyddyn. Mae’r rhesymau dros wneud hynny wedi’u nodi isod:
- i sicrhau ein bod ar y trywydd i gyflawni’r targed
- i osgoi tanwariant cronnus dros dair blynedd y PhD, lle byddwn yn cael ein gadael ag arian y mae’n rhaid i ni ei ddychwelyd i’r cyllidwyr heb ei ddefnyddio (fel yn achos KESS 1)
- i weld a ellir gwneud defnydd da o unrhyw gyllid heb ei neilltuo er mwyn bodloni anghenion prosiectau KESS 2 eraill.
Mae cyllideb KESS 2 ar un lefel, ond nid felly anghenion yr ystod amrywiol o ymchwil KESS 2.
Er enghraifft, os yw prosiect KESS 2 (fel arfer Celfyddydau a’r Dyniaethau) yn methu â gwario ei gyllideb nwyddau traul (oherwydd nad oes gwir angen amdani) yna gallwn ei hailddosbarthu i gefnogi prosiectau sy’n fwy costus, er mwyn galluogi samplo neu ledaenu ymchwil ymhellach mewn meysydd eraill, ac ati.
Gofynnwn am ragolygon o’r gyllideb pan gyflwynir prosiect KESS 2, er mwyn i ni gael syniad o anghenion cyllidebol pob prosiect unigol. Caiff ei graffu fel rhan o broses cymeradwyo KESS 2.
Os bydd angen y gyllideb yn yr ail flwyddyn yn hytrach na’r flwyddyn gyntaf, byddem yn ei throsglwyddo os yw hynny wedi’i ragweld. Os nad yw wedi’i ragweld, yna byddem yn craffu ar anghenion y prosiect cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Felly, nid ‘angen gwario dyraniadau blynyddol’ yw’r llwybr a gymerwn – mae’n ymwneud yn fwy â’r cwestiwn os / pryd fydd angen y gyllideb o fewn y cyfnod a gyllidir – ac annog cynllunio da a rhagolygon drwy ddeialog effeithiol.