Partner cwmni KESS 2 Halen Môn yn derbyn Gwobr y Frenhines am Ddatblygu Cynaliadwy

Mae Halen Môn, partner cwmni KESS 2, ar fin derbyn Gwobr y Frenhines am Fentergarwch diolch i’w ymrwymiad parhaus i dwf cynaliadwy a’r amgylchedd. Fe gyhoeddwyd ei Mawrhydi’r gwobrau ar ei phen-blwydd (Ebrill 21), dyfarnwyd y gwobrau yn sgil argymhelliad y Prif Weinidog a’i Thîm Asesu Gwobrau. Halen Môn yw’r Fentergarwch cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr.

Halen Môn

Mae’r ‘Cwt Halen’ wedi ei orchuddio mewn coed llarwydd Cymraeg, a bobir drwy ddefnyddio proses arloesol ar dymheredd isel er mwyn sicrhau bywyd hir heb orfod cynnal a thrin y pren yn aml.

Gwobrau Mentergarwch y Frenhines yw’r rhai mwyaf arbennig ar gyfer busnesau yn y DU wrth ddathlu ac annog rhagoriaeth mewn busnes a chydnabod llwyddiant arbennig ym meysydd Masnach Rhyngwladol, Arloesi a Datblygu Cynaliadwy.

Mae Halen Môn, sydd â dau prosiect ymchwil PhD gyda KESS 2, yn gwerthu eu cynnyrch halen môr ar draws y byd i gogyddion a thai bwyta enwog a credant fod y ‘cyd-gynhyrchion’ o’r broses gwneud halen yr un mor bwysig. Cafwyd y ‘cyd-gynhyrchion’ yma eu gwerthu ar gyfer pethau amrywiol fel bwyd i’r planhigyn Venus Flytrap, tanwydd ar gyfer trenau stêm, hwmidorau sigârs, ac atgynhyrchon ar gyfer ceffylau rasio a hyd yn oed camelod sy’n rasio.

Mae canolfan ‘Cwt Halen’ y cwmni, lle mae halen môr byd-enwog Halen Môn yn cael eu gynhyrchu, yn eistedd ar ar lan yr Fenai ac wrth wraidd eu hymrwymiadau amgylcheddol. Mae addewid cynaliadwyedd Halen Môn yn cynnwys defnyddio’r ynni solar a gynhyrchir ar y safle, plannu dôl blodau gwyllt i annog bywyd gwyllt ag ailgylchu hen offer i wneud arwyddion busnes.

“Mae ennill Gwobr y Frenhines mor galonogol am sawl rheswm – mae’n dystiolaeth y bydd yr hyn a wnawn fel unigolion yn cronni i greu rhywbeth llawer iawn mwy sylweddol na gweithredoedd unigol,” meddai Alison Lea-Wilson, Partner sefydlol Halen Môn.

Dywedodd David Lea Wilson, cyd-sylfaenydd a Partner, “Rydym yn hynod o falch o ennill y Wobr hon ac yn ei hystyried fel adlewyrchiad o waith ein tîm yn ei gyfanrwydd. Mae pob gweithiwr yn Halen Môn wedi chwarae ei ran yn ein llwyddiant. Mewn cyfnod gwleidyddol anodd o ran newid hinsawdd, mae’n wych gweld gwaith beunyddiol pawb yn ein cwmni yn cael ei gydnabod fel rhywbeth gwerth chweil gan Ei Mawrhydi Y Frenhines.”

Dywedodd Lady Barbara Judge, Cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, “Mae cychwyn busnes yn ei hanfod yn risg ac yn fenter anodd ac mae’r rhai sy’n llwyddo yn haeddu’r gydnabyddiaeth a gânt drwy’r wobr hon. Dylem ddathlu busnesau o bob lliw a llun ond yn enwedig y rhai sy’n cyfrannu at economi fwy llewyrchus drwy arloesedd, masnach ryngwladol a datblygu cynaliadwy.”

Cyflwynir Gwobr y Frenhines gan yr Arglwydd Raglaw, cynrychiolydd uchaf Ei Mawrhydi yn y sir, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 

 

 

 

 

 

I ddarganfod mwy amdan sut y gallwch fod yn gwmni partner KESS 2, ewch i’n Hafan Busnes.