Digwyddiad KESS 2 ym Mhrifysgol Caerdydd yn cryfhau cymuned y cyfranogwyr

Ar 18 Rhagfyr 2017, cynhaliodd tîm KESS 2 ym Mhrifysgol Caerdydd ddigwyddiad cymdeithasol gyda sgyrsiau a chyflwyniadau gan fyfyrwyr KESS 2.

Nod y digwyddiad oedd adeiladu cymuned KESS 2 lle rhoddwyd cyfle i’r myfyrwyr a ariennir gan y rhaglen ddod i adnabod ei gilydd a rhannu syniadau, gwybodaeth a phrofiad, a fyddai’n eu galluogi i ddod yn bartneriaid gweithgar wrth lunio eu hymchwil amgylchedd trwy ryngweithio rhyngddisgyblaethol.

 

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i greu ac atgyfnerthu ymwybyddiaeth am y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y mae KESS 2 wedi’i ymgorffori yn ei raglen, trwy ymgysylltu â myfyrwyr ac academyddion ynghylch sut y gallent gymryd rhan.

Mynychodd dros 40 o gyfranogwyr a buddiolwyr KESS 2 y digwyddiad, gan gynnwys myfyrwyr a goruchwylwyr academaidd, a derbyniwyd adborth da iawn gan y rhai a fynychodd.

Oriel y Digwyddiad