Prosiect Defaid Trydanol wedi ei ariannu gan KESS 2 yn ymddangos ar BBC Countryfile i dynnu sylw at astudiaeth arloesol mewn cynhyrchiant amaethyddol yn Eryri

Electric Weather Sheep

Pymtheg munud o enwogrwydd i ‘Ddafad Dywydd Drydanol’ Pip Jones ar BBC Countryfile.

Ar Ddydd Sul, 12 Mawrth 2017, fe ymddangoswyd myfyrwraig PhD KESS 2 Pip Jones (Prifysgol Bangor) gyda’i ‘Dafad Dywydd Drydanol’ ar sioe amaethyddol Countryfile y BBC fel rhan o raglen a oedd yn edrych yn ôl ar ddulliau ffermio yn Eryri dros y 60 mlynedd diwethaf. Mae’r prosiect a gyllidwyd gan KESS 2, sydd wedi ei gefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), yn gweithio ochr yn ochr gyda ein partner cwmni Coed Cadw (The Woodland Trust in Wales) ac yn defnyddio dulliau newydd i astudio effaith tywydd amrywiol ar stoc defaid pori.

I wylio’r clip ar BBC Countryfile, dilynwch y linc isod (yn dechrau am 53:45).

http://www.bbc.co.uk/programmes/b08jm6h3 (linc yn agor mewn tab newydd)