
Non Williams, Prifysgol Bangor
Hoffai KESS 2 ymestyn llongyfarchiadau i’n hymgeisydd PhD Non Williams ar gael ei ethol yn ddiweddar i eistedd ar fforwm ‘Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth’ Llywodraeth Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd Non, sy’n ymchwilio ‘Rheoli porfa ucheldir wedi’i optimeiddio ar gyfer buddion economaidd ac amgylcheddol’, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o fewn strwythur KESS 2, yn cymryd rhan yn fisol yn y fforwm ar ran Prifysgol Bangor.
Amcan y Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth yw cryfhau’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a phobl ifanc y sector amaeth. Anelir at ddatblygu arweinwyr y dyfodol trwy gynnig cefnogaeth, adnabod cyfleoedd i ddatblygu a thrafod materion allai effeithio ar y diwydiant.
Dywedodd Non, “Rwyf yn hynod falch o’r cyfle i gynrychioli Prifysgol Bangor ar y Fforwm gan leisio barn pobl ifanc ar ddatblygiadau i bolisi amaethyddol.”