Carthysyddion ar ochr y ffordd : Ymchwilwyr yn archwilio’r anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd nad ydym ni byth yn eu gweld

Roadkill scavenging

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Journal of Urban Ecology (Gwasg Prifysgol Rhydychen), gan brif awdur a myfyrwraig KESS 2, Amy Williams Schwartz o Brifysgol Caerdydd, yn nodi bod y nifer o anifeiliaid gwyllt sy’n cael eu lladd gan gerbydau modur yn gallu bod yn llawer uwch nag sy’n cael ei adrodd na’i ddeall yn gyffredinol.

Mae ymchwilwyr prosiect KESS 2, gan weithio mewn cydweithrediad â Chwmni Buddiannau Cymunedol Eco-explore ac yn cael eu cefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, wedi defnyddio trapiau camera gydag abwyd mewn deuddeg o safleoedd o gwmpas Caerdydd, gyda’r nod o adnabod carthysyddion anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd.  Er bod gwyddonwyr wedi astudio anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd mewn nifer o ffyrdd o’r blaen, dyma’r tro cyntaf i drapiau camera gael eu defnyddio i ddogfennu gweithgaredd carthysu.

Mae marwolaethau bywyd gwyllt ar ffyrdd Prydain yn y miliynau bob blwyddyn, ac felly mae’r carcasau yn cynrychioli ffynhonnell sylweddol o fwyd ar gyfer y carthysyddion.   Drwy symud anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd mewn ardaloedd trefol, mae carthysyddion yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i’r ecosystem, ond gallai symud carcasau gan garthysyddion yn gyflym arwain gwyddonwyr i ddiystyru’r effeithiau y mae’r ffyrdd yn eu cael ar fywyd gwyllt.

Dywedodd Amy Williams Schwartz “Credir bod symud anifeiliaid gan garthysyddion y ffactor bwysicaf sy’n achosi tanamcangyfrif y niferoedd o anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd, yn arbennig felly, anifeiliaid bychain fel adar yr ardd a chnofilod.  Mae ein hastudiaeth yn dangos yr amlder a’r cyflymder y mae carthysyddion yn gallu symud yr anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd a’r graddau y gallwn ni danamcangyfrif y gwir nifer o farwolaethau, ond mae’n awgrymu hefyd bod llawer o garthysyddion trefol fel brain, gwylanod a llwynogod yn gallu bod yn darparu gwasanaeth symud carcasau nad yw’n cael ei werthfawrogi, ac i raddau helaeth, na sylwir arno yn ein dinasoedd.

Er mwyn gwerthuso’r cyd-destun a’r raddfa o garthysu anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd yn y trefi, bu ymchwilwyr yn archwilio pa rywogaethau sy’n carthysu anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd mewn ardaloedd trefol, y tebygolrwydd o anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd yn cael eu symud oddi yno gan garthysyddion, ac a yw ffactorau megis, math o gynefin ac amser o’r dydd, yn dylanwadu ar gyfradd y symud.

Mae canfyddiadau yn dangos mai teulu’r frân yw’r carthysyddion mwyaf cyffredin o anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd, ac mae’r ymchwilwyr wedi sylwi bod uchafbwynt mewn gweithgaredd carthysu ar ôl codiad yr haul, sy’n adlewrychu uchafbwynt nodweddiadol mewn gweithgaredd adar yn ystod yr amser yma.  Mae’r canlyniadau yn awgrymu y gallai fod o bosibl hyd at chwe gwaith cymaint o ddigwyddiadau o fywyd gwyllt sy’n cael eu lladd ar y ffordd nag y mae amcangyfrifon presennol yn eu dangos.

Er mwyn darganfod mwy a darllen y papur yn llawn, ewch i: Roadkill scavenging behaviour in an urban environment, Journal of Urban Ecology (2018)


Ymdriniwyd â’r astudiaeth hon yn ogystal gan y gwefannau cyfryngau ar-lein canlynol:

Phys.org (14 Mai 2018): https://phys.org/news/2018-05-underestimating-roadkill.amp

Popular Science (14 Mai 2018): https://www.popsci.com/roadkill-science#page-3