Mae myfyriwr PhD KESS 2 o Brifysgol Bangor, Rob Brown, wedi cyhoeddi’r papur cyntaf o’i PhD yn y cyfnodolyn ‘Soil Biology and Biochemistry’. Mae papur Rob yn cymharu sensitifrwydd cyfansoddion organig anweddol (VOCs) â mesur safonol o gymuned ficrobaidd y pridd; proffilio asid brasterog ffosffolipid (PLFA).
Fel yr eglurwyd yn astudiaeth achos ddiweddar Rob, mae pridd yn adnodd cyfyngedig ac anadnewyddadwy. O ganlyniad, mae dealltwriaeth a rheolaeth dda o adnoddau pridd yn allweddol i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn ogystal â darparu gwasanaethau ecosystem eraill.
Yn ogystal a hyn, mae bioleg pridd yn yrrwr hanfodol yn y system bridd; yn cylchu maetholion, dŵr a deunydd organig a chynnal strwythur y pridd. Fodd bynnag, nid yw’r cysylltiad rhwng ansawdd pridd biolegol a swyddogaeth y pridd wedi ei ddeall yn dda.
Meddai Rob,
“Mae cyfansoddion organig anweddol (VOCs) yn aml yn cael eu cynhyrchu fel sgil-gynnyrch metaboledd cynradd (moleciwlau bach sy’n ymwneud yn uniongyrchol â thwf, datblygu ac atgynhyrchu organeb). Mae proffil VOC neu ‘volatilome’ yn cynnwys set amrywiol iawn o gyfansoddion sydd yn aml yn benodol i grwpiau o organebau ac yn ei hanfod yn rhoi arogl i sampl y pridd.
Cymharodd y papur hwn sensitifrwydd VOCs â mesur safonol o gymuned ficrobaidd y pridd; proffilio asid brasterog ffosffolipid (PLFA). Yn gyffredinol, dangosodd VOCs fwy o sensitifrwydd na’r dadansoddiad PLFA wrth wahanu triniaethau ansawdd pridd. Mae hyn yn dangos potensial VOCs fel dangosydd o ansawdd pridd biolegol ac yn tynnu sylw at yr angen am ymchwil bellach yn y maes hwn. ”
Cefnogir prosiect ymchwil Rob gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) a KESS 2 trwy Lywodraeth Cymru ac fe’i goruchwylir gan yr Athro Davey Jones a’r Athro Dave Chadwick ym Mhrifysgol Bangor. Gellir gweld y papur cyhoeddedig llawn yn: https://authors.elsevier.com/a/1ch0F8g13P-wK
Dolenni cysylltiedig: Astudiaeth Achos: Arloesi mewn dadansoddi iechyd y pridd