Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur gan Andrew van der Schatte Olivier, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn y cyfnodolyn Reviews in Aquaculture (Ffactor Effaith 7.139). Mae Andrew yn nhrydedd blwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2, ac mae ei bapur yn amcangyfrif gwerth byd-eang y gwasanaethau ecosystem y mae dyframaeth ddeuglawr yn eu darparu, a hynny mewn cydweithrediad â Deep Dock Ltd, cwmni cynhyrchu cregyn gleision yng Nghymru.
Ystyr dyframaeth ddeuglawr (bivalve aquaculture) yw amaethu molysgiaid morol fel cocos, cregyn gleision a wystrys. Mae pysgod cregyn yn hidl-ymborthwyr felly maent yn hidlo dŵr a gronynnau gan greu is-haenau yn eu hamgylchedd. Mae’r is-haenau hyn yn darparu cynefinoedd sy’n gweithredu fel meithrinfeydd i rywogaethau morol eraill, gan ddarparu ecosystem unigryw ar gyfer bywyd morol yn yr ardal gyfagos.
Fel dull ffermio morol, mae dyframaeth ddeuglawr yn cyflwyno llawer o fanteision i gymdeithas, y tu hwnt i werth marchnad traddodiadol pysgod cregyn fel bwyd, ac mae’r papur yn amcangyfrif y gallai gwerth y gwasanaethau ecosystem hyn fod dros $6 biliwn y flwyddyn. Mae’r nwyddau a ddaw yn sgil y gwasanaethau hyn yn cynnwys cig, gwerth $23.9 biliwn, yn ogystal â pherlau, cregyn a grut dofednod. O’r cynnyrch eilradd hwn, cregyn wystrys yw’r mwyaf arwyddocaol, sydd werth $5.2 biliwn o bosibl yn fyd-eang.
Un gwasanaeth pwysig y mae dyframaeth ddeuglawr yn ei ddarparu yw rheoleiddio’r broses adfer maetholynnau. Mae pysgod cregyn wedi’u hamaethu yn tynnu 49,000 tunnell fetrig o nitrogen a 6,000 tunnell fetrig o ffosfforws o gefnforoedd y byd, sy’n wasanaeth diwydiannol â gwerth posibl o $1.2 biliwn.
Nid oes gwerth wedi cael ei bennu ar gyfer pob gwasanaeth ecosystem. Er enghraifft, does dim llawer o dystiolaeth o raddfa’r gwasanaethau amaethu yn sgil dyframaeth deuglawr, ond mae’r papur yn dadlau bod y gwerthoedd amaethyddol hyn yn helaeth, er ei bod yn anodd eu mesur a phennu eu gwerth.
Dywedodd James Wilson o Deep Dock Ltd., “Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn rhan o’r holl ymchwil, ond mae’n arbennig o berthnasol mesur darpariaeth nwyddau a gwasanaethau ecosystemau yn nghyswllt pysgod cregyn wedi’u amaethu – a hynny yng nghyd-destun dyframaeth. Mae hefyd yn ffordd o seilio penderfyniadau cymdeithasol ynglŷn â sut byddwn yn diwallu ein hanghenion o ran protein yn y dyfodol yn sgil twf y boblogaeth a newid hinsawdd.”
Caiff prosiect ymchwil PhD Andrew ei gefnogi gan KESS 2 a Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a’r cwmni nawdd, Deep Dock Ltd. Mae’n brosiect cydweithredol seiliedig ar ddiwydiant a chanddo dîm goruchwylio sy’n cynnwys Prifysgol Bangor (Dr Shelagh Malham a’r Arthro Lewis Le Vay), y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (yr Athro Laurence Jones), Prifysgol Aberystwyth (yr Athro Michael Christie) a Mr James Wilson (Deep Dock Ltd).
DOI: 10.1111/raq.12301
Gellir gweld y papur llawn wedi’i gyhoeddi yma: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/epdf/10.1111/raq.12301