“The Toddlers who took on Dementia”: Prosiect MRes KESS 2 ar raglen ddogfen BBC Cymru

The toddlers who took on dementiaRhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae’n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio’r hyn sy’n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy’n byw gyda Dementia’n dod ynghyd.

Bu Seicolegwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Chwmni Teledu Darlun i greu gweithgareddau sy’n rhoi diddordebau’r unigolion yn ganolog ac sy’n addas ar gyfer pob oedran. Roedd y tîm yn cynnwys yr Athro Emeritws Bob Woods, arbenigwr rhyngwladol mewn Therapi Ysgogi Gwybyddol a’r Dr Catrin Hedd Jones, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Dr Nia Williams, Seicolegydd Pant o’r Ysgol Addysg.

Roedd Rebecca Nicholson, Rheolwraig y Feithrinfa fu yn rhan o’r gwaith yn disgrifio fod y plant wedi wirioneddol fwynhau y profiad “anhygoel ac wedi elwa wrth fod yn rhan o brofiadau bywyd sydd yn allweddol i’w datlblygiad a’u addysg”.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan gofal dydd i’r Oedolion, Christine Williams, ynglŷn â’r profiad

“Rydym i gyd yn falch iawn o fod yn rhan o arbrawf mor gyffrous, roedd yn naturiol iawn ac roedd y canlyniadau a gawsom yn anhygoel. Yn awr rhaid i ni ail-feddwl yn genedlaethol ac yn rhyngwladol oherwydd fe aildaniodd y rhaglen hon deimladau a ddaeth â hapusrwydd i’r unigolion yr ydyn ni’n eu cefnogi, sy’n byw gyda Dementia.”

Fe wnaeth cwmni teledu Darlun hefyd ran ariannu Myfyriwr Gradd Meistr i gloriannu’r arbrawf o dan cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2), a bu’n casglu data gan y plant a’r oedolion a fu’n cymryd rhan. Ar hyn o bryd mae Lynwen Hamer wrthi’n dadansoddi’r canfyddiadau fel rhan o’i gradd Meistr.

Ar sail llwyddiant eu gwaith hyd yn hyn mae Dr Jones hefyd yn arwain ymchwil newydd KESS 2 mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Bydd yr ymchwil newydd yma’n dadansoddi’r elfennau sy’n sicrhau bod rhaglen sy’n Pontio’r Cenedlaethau rhwng plant ysgol gynradd ac oedolion hŷn yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae’r tîm wrthi’n recriwtio ymchwilydd dwyieithog i ymuno â’r astudiaeth (https://kess2.ac.uk/buk2159/).

Mae’r rhaglen nos Fercher yn adeiladu ar y cyfres Hen Blant bach a ddaeth i S4C dros Rhagfyr 2016 a 2017 a sydd wedi ennill gworau rhyngwladol yn ddiweddar. Daeth i’r brig yn y Gwŷl Filmiau Geltaidd am Gyfres Ffeithiol Orau a cafwyd Medal Arian Rhyngwladol yng Ngwŷl Ffilm a Theledu Efrog Newydd yn 2018.

Caiff ‘The Toddlers who took on Dementia’ ei darlledu ddydd Mercher 23 Mai, BBC1 Cymru am 9pm, fel rhan o Wythnos Gweithredu Dementia.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymchwil ar Ddementia sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor dilynwch y ddoleni isod.

Nodyn pwysig i unrhyw un sy’n ystyried cyhoeddi’r datganiad hwn i’r wasg – mae pobl sydd â dementia yn meddwl bod geiriau fel ‘dioddefwr’ neu ‘ddioddef’ yn sarhaus o’u gweld nhw yn y cyfryngau ac mewn penawdau. Er mwyn peidio â defnyddio termau tramgwyddus wrth drafod dementia darllenwch y canllawiau a baratowyd gan bobl sy’n byw gyda dementia ar y ddolen gyswllt hon http://dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/Deep-Guide-language.pdf

Links

• Cipolwg ar y rhaglen fydd ar BBC Wales https://twitter.com/twitter/statuses/998106710999994368

• Ysgoloriaeth newydd ar gyfer ymuno a tîm ymchwil Pontio’r Cenedlaethau

https://kess2.ac.uk/buk2159/

• Gwybodaeth am KESS 2 https://kess2.ac.uk/cy/about/

• Safle wê ymchwil Dementia ym Mangor: http://dsdc.bangor.ac.uk/research.php.cy

Fe gyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar safle newyddion Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/the-toddlers-who-took-on-dementia-36935