Yr haf hwn cychwynnwyd gwaith ymchwil mewn maes na wyddwn fawr amdano – pydredd calon derw. Dan y fenter Action Oak mae’r mycolegydd Richard Wright wedi cychwyn ar brosiect ymchwil KESS 2 PhD tair blynedd a hanner. Cefnogir y fenter gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), dan oruchwyliaeth yr Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Cymdeithas Coedwigaeth Frenhinol (RFS).
Mae Pydredd Calon yn effeithio derw cyffredin, dros 200 oed ac mae bron yn gyffredin mewn coed 400 oed a hŷn. Ond nid oes neb tan yn ddiweddar wedi archwilio i sut a pham ei fod yn digwydd.
Meddai Richard: “Er gwaethaf enw’r cyflwr, gall pydredd calon fod o fudd mawr i rai rhywogaethau o goed. Gall fod o gymorth i dderwen addasu a chyrraedd oed mawr drwy ollwng maetholion i sicrhau parhad yn ei thyfiant a newid strwythur y goeden. Mae pydredd calon hefyd yn ganolog i gyfoeth ecoleg coedwigoedd. Hebddo, ni fyddai nifer o adar a mamaliaid yn gallu dod o hyd i dyllau i nythu ac fe fyddai’r gadwyn fwyd ffwngaidd gymhleth sy’n brif ffynhonnell fwyd i amrywiaeth anferth o bryfed yn dod i ben.
“Rydym yn ‘nabod gweithredyddion achosion achlysurol pydredd calon ond fe fyddwn yn edrych ar ehangu ein gwybodaeth ac yn astudio’r rhyngweithio, olyniaeth ac amrywiaeth y cymunedau pydredd hyn, yn enwedig y berthynas ofodol a thiriogaethau’r ffwng mewn 3D. Mae cael bod yn rhan o ecoleg ffwng arloesol, fel rhan o’m mycoleg, yn fy nghyffroi’n fawr – edrych i mewn i galonnau coed a deall y rôl allweddol sydd gan ffyngau yn ecosystemau ein coedwigoedd.”
Ers amser hir ni fu modd gweld pydredd calon derw gyda’r llygaid. Bydd gwaith Richard yn canolbwyntio’n bennaf ar goed derw dros 150 oed ac yma yng Nghymru fe fydd yn cydweithio gyda chyfaill fydd yn gwneud gwaith tebyg yn Lloegr. Mae’n gobeithio gallu cymryd samplau’r haf hwn (yn dibynnu ar gyfyngiadau Covid-19) cyn cychwyn ar eu dadansoddi, dilyniannodi DNA, a datblygu model 3D o dwf a dilyniant y pydredd mewn boncyff.
Meddai goruchwyliwr y prosiect yr Athro Lynne Boddy o Biowyddorau Caerdydd: “Rydym wrth ein boddau’n cael gweithio gyda Richard Wright ar y gwaith ymchwil hynod bwysig ac am gael cefnogaeth aelodau RFS. Mae pydredd calon yn broses naturiol sy’n cynnig cynefin i ffyngau, gan gynnwys y cyfrwy prin Buglossoprus quercinus, infertebratau saprosylig prin ynghyd â rhai fertebratau. Y gobaith yw nid yn unig dod i ddeall y rhyngweithio sy’n achosi pydredd calon ond hefyd i ddeall ei dwf a’i ledaeniad. Rhai blynyddoedd yn ôl, dangosodd gwaith ymchwil i bydredd calon coed bedw gymunedau pydredd ffwngaidd na fyddwn wedi ei ddychmygu wrth edrych ar ffrwyth ffwng ar gorff coeden. Gallwn yn wir gael ein synnu eto.”
Meddai Chris Jones Cadeirydd Adran De Cymru: “ Edrychwn ymlaen at gyflwyno Richard i’n haelodau yng Nghymru a fydd yn gallu ei gefnogi. Maent yn rheoli coedwigoedd am nifer o resymau ond yn cael pleser mawr o’r hen goed llydanddail ac mae ymchwil fel hyn sydd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o amgylchfyd cyffredinol coedwigoedd yn werthfawr tu hwnt. Bydd yr ymchwil hefyd yn rhoi tystiolaeth bwysig am bydredd mewn coed derw a all gael ei ddefnyddio gan berchnogion coedwigoedd ar gyfer rheolaeth diogelwch.”
Mae Richard Wright wedi bod yn cynnal cyrsiau addysgol ac ymchwil maes mwn mycoleg ers deng mlynedd ac wedi bod yn ymchwilydd gyda’r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew lle mae’n parhau i fod yn rhan o’r prosiect Plant and Fungi Tree of Life.
Gair am y partneriaid cydweithiol:
Cymdeithas Coedwigaeth Frenhinol
- Cymdeithas Coedwigaeth Frenhinol (RFS) yw elusen addysgol fwyaf a hynaf sy’n hybu rheolaeth ddeallusol o goed a choedwigoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Nod yr RFS yw ysbrydoli angerdd ac arbenigedd mewn rheolaeth coedwigoedd drwy addysg a rhannu gwybodaeth..
- Mae’r RFS yn credu bod dod â hen goedwigoedd gwyllt, wedi eu hesgeuluso, yn ôl dan ein rheolaeth, ynghyd â rhannu gwybodaeth ar sut i reoli coedwigoedd i safon uchel, yn hanfodol i les tymor hir ein coed a’n coedwigoedd. Mae eu polisïau’n amlygu beth sydd ei angen i sicrhau budd economaidd, amgylcheddol a chyhoeddus ein coedwigoedd.
- Mae cyhoeddiadau ac adroddiadau ymchwil RFS ar gael yma https://www.rfs.org.uk/about/publications/
- I wybod mwy ewch i rfs.org.uk. Twitter: @royal_forestry, Facebook: Royal Forestry Society – RFS
Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd
- Mae gan Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd enw ardderchog fel canolfan ymchwil: clodforwyd 84% o’n gwaith ymchwil fel bod yn “rhyngwladol arbennig” neu’n “arwain y byd”.
- Mae gan yr Ysgol Biowyddorau enw eithriadol o dda am ragoriaeth dysgu. Yn y 2019 World University Ranking wedi’i gasglu gan Brifysgol Shanghai Jiao Tong (yn seiliedig ar nerth a pherfformiad ymchwil) daeth Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn 25ain o holl brifysgolion y byd a’r 4ydd yn y DU.
Action Oak
Menter yw Action Oak i warchod ein coed derw, rŵan ac i’r dyfodol. Daw Action Oak â chynrychiolwyr at ei gilydd o elusenau, tirfeddiannwyr, academia a llywodraeth i ddatblygu a chydlynu cynllun sy’n adnabod a delio â materion sy’n effeithio coed derw brodorol Prydain.
Mae’r gweithgareddau mae Action Oak wedi eu hamlygu i warchod coed derw yn cynnwys:
- Gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr coedwigoedd derw i helpu gwarchod y coed oddi wrth fygythiadau lu.
- Ariannu ymchwil i wella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n bygwth ein coed derw ac i hyrwyddo arferion gorau o’u rheolaeth.
- Defnyddio rhwydweithiau gwyddonol a phroffesiynol sefydledig i gofnodi newidiadau yn nosraniad, oed ac iechyd ein coed derw, er mwyn adnabod ardaloedd lle dylid gweithredu.
- Annog sefydliadau i ymuno â Phartneriaeth Action Oak ac i bobl gefnogi Action Oak.
Mwy o wybodaeth ar gael yma: http://www.actionoak.org/