Er bod Cymru yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwybod bod ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu’n fawr ar ba mor dda y byddwn ni’n datblygu ac yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.
Mae’n hanfodol ein bod ni’n creu ac yn datblygu mantais gystadleuol a bydd darparu adnoddau i gyfuno ymchwil, rhannu gwybodaeth a datblygu sgiliau lefel uwch yn hollbwysig i’r tebygrwydd y byddwn yn sicrhau dyfodol cadarnhaol.
Drwy gydweithio mewn ffyrdd hynod lwyddiannus, gallwn ddatblygu’r dalent a’r arbenigedd sy’n bodoli eisoes mewn busnesau, prifysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru, gan eu helpu i ddatblygu syniadau arloesol ac ysbrydoledig sy’n helpu i roi Cymru ar y map.
Felly, mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n buddsoddi mewn alinio gwaith ymchwil ein prifysgolion ag anghenion busnesau bach a chanolig yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus, gan wella sgiliau lefel uchel i ddiwallu anghenion yr economi.
Mae gan Brifysgolion rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o annog ffyniant ledled Cymru drwy ddarparu cyfleoedd i ymchwilwyr ôl-radd ac academyddion wella eu sgiliau ymchwil mewn sectorau twf allweddol, a hefyd drwy gefnogi masnacheiddio’r ymchwil hwnnw ymysg busnesau. Rhaid parhau i gynyddu nifer yr unigolion sydd â sgiliau lefel uchel ym maes ymchwil ac arloesi ac sy’n gweithio mewn busnesau seiliedig ar wybodaeth yng Nghymru.
Mae busnesau yn aml yn cynnig cyfleoedd i ymchwilwyr ôl-radd sydd â rhywfaint o brofiad o weithio mewn amgylchedd masnachol, os o gwbl, ac mae’r busnes a’r ymchwilydd yn elwa’n fawr ar y bartneriaeth honno.
Mae timau ‘Cyfnewid Gwybodaeth’ pwrpasol mewn prifysgolion yng Nghymru yn gallu helpu busnesau, academyddion ac ymchwilwyr ôl-radd i weithio gyda’i gilydd. Drwy ddatblygu a chyflawni prosiectau ar y cyd, gellir ysgogi dull tymor hir a fydd yn caniatáu i’r gwaith barhau o’r cysyniad i lansio’r cynnyrch.
Mae tair elfen lwyddiannus i hyn, sef manteision i’r myfyriwr, i’r cwmni ac i’r brifysgol. Nodwyd bod prifysgolion yn darparu dadansoddiad i ddweud wrthyn nhw mewn termau damcaniaethol yr hyn roedden nhw’n credu yr oedden nhw’n ei wybod eisoes. Dywedodd un perchennog busnes: Doedden ni ddim yn gwybod cymaint ag yr oedden ni’n feddwl yr oedden ni’n ei wybod, nes i ni gael myfyriwr PhD”. Felly, mae prifysgolion yn gallu sicrhau bod gan fusnesau fynediad at bobl ac adnoddau na fydden nhw fel arfer yn cael mynediad atynt.
Un cynllun llwyddiannus sy’n cynorthwyo busnesau yw’r prosiect Cymru gyfan sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, sef ‘Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2’ (KESS 2). Mae hwn yn gynllun £36m gan yr UE ac mae’n helpu i gynyddu nifer y bobl â sgiliau lefel uchel sy’n gysylltiedig â mentrau. Nod y cynllun yw hybu a chynyddu gweithgareddau Ymchwil ac Arloesi yn y busnesau hynny, gan gynnwys cwmnïau micro.
Mae KESS 2 yn cyflwyno ystod o gyfleoedd cydweithio ar lefel Meistr Ymchwil a Doethuriaeth mewn Prifysgolion a chwmnïau yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar anghenion y cwmnïau sy’n cymryd rhan. Mae’r rhaglen yn cynnig ffyrdd rhad y gall cwmnïau ymgysylltu â phrosiect ymchwil, ynghyd â chyfle i ddatblygu perthynas hirdymor â Phrifysgol. Hefyd, mae KESS 2 yn llwyfan i gael mynediad at y datblygiadau academaidd diweddaraf ac mae’n gyfle i ddatblygu gweithgareddau ymchwilio a datblygu mewnol. Yn bwysig, mae’n cynnwys holl brifysgolion Cymru hefyd.
Yn dilyn llwyddiant prosiect KESS rhwng 2009 a 2014, mae KESS 2 nawr yn yr ail rownd gyllido a bydd yn rhoi 645 o ysgoloriaethau dros chwe blynedd. Bydd ei bartneriaid yn amrywio o gwmnïau bach a chanolig i gwmnïau mawr, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus. Ymhlith yr enghreifftiau mae Gofal Canser Tenovus, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tata Steel, S4C, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Mencap Cymru, Halen Môn, Qioptiq Ltd., P&S Nano Ltd., BioviciLtd. a Cultech Ltd.
Bydd cwmnïau newydd a chwmnïau llai yn benodol yn elwa’n fawr ar y cynllun oherwydd yn aml, oherwydd eu maint, mae gwneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’w modd. Fodd bynnag, fel y gwelir o’r rhestr o gwmnïau amrywiol uchod, gall bob mathau o sefydliadau elwa, dim ots beth yw eu maint, oherwydd bod angen i bob un ddatblygu’n barhaus.
Er mwyn llwyddo a ffynnu, rhaid i Gymru barhau i ddefnyddio ei harbenigedd sylweddol, lle bynnag fo hynny. Drwy weithio gyda’n gilydd ar draws sectorau a ffiniau traddodiadol, gallwn ymateb yn gyflym i alw cwsmeriaid, busnesau, defnyddwyr gwasanaethau a’r llywodraeth. Dylem fod yn falch o’r arbenigedd o’r radd flaenaf sydd gennym yng Nghymru, a dylem barhau i wneud defnydd ohono er budd ein pobl.
Mae astudiaethau achos manwl a chyfleoedd ysgoloriaeth KESS 2 ar gael yma: https://kess2.ac.uk/
Dr Penny Dowdney
Rheolwr KESS 2 Cymru
Prifysgol Bangor