Erthygl gan Daniel Nash (Ymchwiliwr PhD a ariannwyd gan KESS 2)
Dechreuais fy PhD KESS 2 yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn 2019, gan ganolbwyntio ar ffisioleg chwaraeon ac ymarfer corff, ac mae fy ymchwil yn cael ei oruchwylio gan Dr Michael Hughes, Richard Webb, Rebecca Aicheler a Paul Smith. Mae’r rhaglen KESS 2 a ariennir gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop yn galluogi myfyrwyr PhD fel fi i gysylltu arbenigedd academaidd â chwmnïau a sefydliadau gweithredol yng Nghymru a bûm yn ddigon ffodus i gael fy mharu â thri phartner diwydiant gwych; Chwaraeon Cymru, Athletau Cymru a Thriathlon Cymru ar gyfer fy mhrosiect ymchwil doethurol.
Mae fy noethuriaeth yn canolbwyntio ar yr ymatebion cytocin i hyfforddiant dygnwch. Moleciwlau negeseuol bach yw cytocinau a gynhyrchir gan y corff. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar set benodol o cytocinau sy’n ymddangos fel pe baent yn adlewyrchu straen ymarfer dygnwch. Trwy nodweddu’r ymatebion i sesiynau ymarfer corff unigol ac i hyfforddiant hirdymor, rydym yn astudio’r defnydd o ymatebion cytocin i lywio argymhellion hyfforddi, wrth hefyd wella’r wybodaeth wyddonol am y pwnc hwn. Credwn y gall y cytocinau hyn fod yn fiofarcwyr arbennig o ddefnyddiol ar gyfer mesur y straen a achosir gan sesiynau hyfforddi hir ac ar gyfer darganfod pa mor dda y mae athletwr yn ymdopi â’i amserlen hyfforddi bresennol.
Ochr yn ochr â’m hymchwil academaidd, rydw i wedi bod yn ennill profiad yn y diwydiant trwy weithredu fel ffisiolegydd chwaraeon i’m sefydliadau partner. Roeddwn i’n arbennig o ffodus bod fy noethuriaeth wedi cyd-daro â’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022 a gynhelir ym Mirmingham, megis dwy awr i ffwrdd o fy mhrifysgol. Fel rhan o’m rôl fel ffisiolegydd chwaraeon, rydw i wedi helpu i gynghori a phrofi llawer o gystadleuwyr Cymreig mewn categorïau Athletau a Triathlon.
Mae llawer o’m gwaith ffisioleg chwaraeon yn golygu cynnal profion ymarfer corff ar yr athletwyr. Mae’r rhain yn gofyn i’r athletwyr berfformio camau ymarfer cynyddol yn eu camp ddewisol (e.e. nofio, beicio, rhedeg), wrth gael eu monitro ar gyfer marcwyr ffisiolegol fel lactad gwaed, cyfradd curiad y galon a’r defnydd o ocsigen. Mae hyfforddwyr yn defnyddio’r canlyniadau i bersonoli argymhellion hyfforddi ar gyfer athletwyr. Mae profion ffurfiol fel hyn fel arfer yn digwydd tua dwywaith y flwyddyn mewn amgylchedd labordy rheoledig. Fodd bynnag, rydw i hefyd yn mynychu sesiynau hyfforddi’r athletwyr lle rwy’n monitro ymatebion ffisiolegol a chanfyddiadol. Mae hyn yn ein galluogi i: a) drosi data’r labordy i amgylchedd arferol yr athletwr; b) cymharu’r ymatebion i hyfforddiant â bwriadau’r hyfforddwyr; a c) olrhain cynnydd yn ystod y tymor.
Prosiect ychwanegol fu asesu effeithiolrwydd y gwersylloedd hyfforddi uchder a ddefnyddir gan fy sefydliadau partner. Gallwn fesur yr effeithiolrwydd hwn trwy fesur faint o haemoglobin (protein sy’n cario ocsigen) sydd gan athletwr yn ei waed cyn ac ar ôl mynychu gwersyll hyfforddi uchder.
Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i weithio gydag athletwyr iau, a fydd yn gobeithio cyrraedd Gemau’r Gymanwlad ymhen 4 neu 8 mlynedd. Rydym wedi gallu dod â’r athletwyr hyn i gysylltiad â rhai o’r gwasanaethau cymorth gwyddor chwaraeon a fydd ar gael yn haws iddynt wrth iddynt gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd athletaidd, gyda’r nod o sicrhau eu bod nhw’n gwneud y pethau sylfaenol yn gywir wrth hyfforddi gan ddysgu hefyd sut i wneud y gorau o’r cymorth y byddant yn ei gael yn y dyfodol ar yr un pryd.
Bu helpu’r athletwyr hyn yn eu paratoadau yn brofiad hynod werth chweil ac rwy’n teimlo’n freintiedig o fod wedi gallu chwarae rhan fach yn eu taith. Rwy’n edrych ymlaen at gloi’r gylchred Gymanwlad hon drwy ddarparu cymorth ffisioleg i athletwyr Cymru yn y Gemau, a fydd hefyd yn egwyl braf o ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil!