Cydweithredu ar ymchwil arloesol rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a TWI yn arwain at lwyddiant PhD gyda KESS 2

Llongyfarchiadau i Dr Ewan Hoyle, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi amddiffyn yn llwyddiannus ei draethawd ymchwil o dan y teitl “Delweddu Uwchsain Agorfa Ffynhonnell Rithwir ar gyfer Profion Anninistriol” a bellach mae’n Arweinydd Prosiect yng Nghanolfan Dechnoleg TWI (Cymru), ym Mhort Talbot.

Dr Ewan Hoyle

Ymunodd Ewan â TWI Ltd a’r Drindod Dewi Sant i ddilyn ei PhD, a ariannwyd o dan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2), gan wneud ymchwil i dechnegau delweddu uwchsain uwch ar gyfer profion anninistriol (NDT), sy’n arbenigo mewn delweddu agorfa ffynhonnell rithwir uwch, sef techneg delweddu NDT Uwchsain cyflym, newydd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Dechnoleg TWI Cymru yn y maes ymchwil cymhwysol hollbwysig hwn..

Mae’r dechneg newydd yn defnyddio caledwedd cyfrifiadurol uwch ac algorithmau ôl-brosesu i greu delweddau â ffocws llawn sy’n well na dull ffisegol o greu pelydr trwy Arae Gyfnodol draddodiadol. Y canlyniad yw ei gwneud hi’n haws dehongli delweddau, gan gynyddu gallu’r defnyddiwr i ganfod a nodweddu diffygion, heb beryglu’r cyflymder sganio.

Gyda chefnogaeth ei oruchwylwyr academaidd a diwydiannol, mae Ewan wedi cyflwyno ei ymchwil mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol, yn ogystal â chyhoeddi mewn cylchgronau a adolygir gan gymheiriaid ac a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Meddai Ewan: “Rwy’n ddiolchgar iawn i KESS, y Brifysgol ac i TWI am roi cyfle i mi wneud gwaith ymchwil arloesol yn y diwydiant. Mae’r profiad hwn wedi bod o fudd mawr o ran y newid i’m gyrfa.”

Meddai’r Athro Peter Charlton, Athro NDT Cymhwysol a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ewan yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Brifysgol: “Mae wedi bod yn fraint fawr cael cydweithio’n agos ag Ewan, sydd wedi dangos agwedd neilltuol drwy gydol ei gyfnod ymchwil. Mae hyn wedi helpu i gryfhau a chynnal ymhellach berthynas waith Y Drindod Dewi Sant ag un o bartneriaid strategol pwysig y rhanbarth ym maes NDT, fel y nodwyd yn Adolygiad Reid Llywodraeth Cymru o ymchwil ac arloesi a ariennir yng Nghymru”

Caiff hyn ei adleisio ymhellach gan ail gyfarwyddwr Ewan, yr Athro John Rees, ac ychwanegodd: “Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar waith a gafodd ei arloesi rhwng yr Athro Charlton a TWI. Mae’n cynnig manteision go iawn i brofion anninistriol o ran gwella cyflymder a chymhwysedd delweddu uwchsain. Roedd hi’n bleser gweithio gydag Ewan a’r tîm ymchwil, ac rwy’n falch dros ben o weld ei waith yn dwyn ffrwyth”.

Dywedodd goruchwyliwr diwydiannol Ewan yn TWI, Dr Mark Sutcliffe a oedd wedi cwblhau ei astudiaethau israddedig a doethurol yn Y Drindod Dewi Sant yn flaenorol, “Mae ymchwil Ewan o ddiddordeb mawr ym maes NDT ac mae wedi bod yn eithriadol yn ei allbwn academaidd a diwydiannol. Mae llwyddiant y gwaith hwn o dan arweiniad Y Drindod Dewi Sant yn dangos cryfderau’r brifysgol wrth ddarparu cydweithrediad â ffocws diwydiannol. Roedd hi’n anrhydedd bod yn rhan o’r tîm goruchwylio a chael cydweithio mor agos â’r brifysgol”.

Yn ogystal, ychwanegodd yr Athro Ian Cooper, Cymrawd Technoleg TWI ac Athro Ymarfer yn Y Drindod Dewi Sant hefyd, “Mae TWI Cymru wedi dod yn ganolfan flaenllaw ar lefel fyd-eang ar gyfer Ymchwil a Datblygiad NDT. Mae TWI am longyfarch Ewan ar gwblhau ei PhD yn llwyddiannus yn y maes ymchwil hanfodol hwn, a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da TWI Cymru am ddatblygu atebion blaenllaw ar gyfer NDT i herio ceisiadau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Yr hyn sy’n ein gwneud yn gryfach mewn marchnad mor heriol yw’r gallu i fanteisio ar sgiliau a gwybodaeth ein partneriaid academaidd, ac yn benodol, y cydweithio agos sydd gennym â grŵp ymchwil NDT yr Athro Charlton yn Y Drindod Dewi Sant.”

Meddai Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) a Phennaeth WISA: “Mae camp Ewan yn enghraifft o un o nodweddion arbennig y Brifysgol wrth gefnogi’r gwaith ymchwil cymhwysol arloesol sy’n gysylltiedig ag anghenion diwydiant a chyflogwyr sy’n rhan o ôl troed daearyddol y Brifysgol. Mae Ewan wedi elwa o gefnogaeth goruchwylwyr selog sy’n gwthio ffiniau ymchwil yn barhaus yn eu maes arbenigedd. Rwy’n llongyfarch Ewan ar yr hyn y mae wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at ddilyn ei yrfa yn y dyfodol yn TWI.”

Wedi’i gyhoeddi yn wreiddiol ar 28.09.2020 gan swyddfa’r wasg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/newyddion/datganiadau/datganiadau-ir-wasg-2020/cydweithredu-ar-ymchwil-arloesol-rhwng-y-drindod-dewi-sant-a-twi-yn-arwain-at-lwyddiant-phd-.html