Mae Kirstie Goggin, cyfranogwr KESS 2 o Brifysgol De Cymru, yn un o chwe myfyriwr PhD yn y DU y mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol wedi’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018’ eleni. Ar ddydd Llun 18 Mehefin 2018, cafodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu gwahodd i gyflwyno eu gwaith mewn digwyddiad yn Llundain, lle roedd aelodau uwch o ddiwydiannau cemegol y DU a gweddill y byd. Rhoddodd Kirstie gyflwyniad 15 munud o dan y teitl ‘GC-IMS Cyflym ar gyfer Dilysu Tarddiad Daearyddol a Chanfod Difwyniad Olew Palmwydd’, a oedd yn amlygu canlyniadau cyffrous ei hymchwil PhD.
Mai lipidau yn rhannau sylfaenol o bob cell ac maent yn chwarae rolau allweddol mewn nifer o wahanol brosesau biocemegol. Grŵp amrywiol o gyfansoddion organig sy’n cynnwys braster ac olew ydynt. Bob blwyddyn mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol yn cydnabod llwyddiannau ymchwilwyr ifanc ym maes cemeg lipidau gyda’i ‘Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau’. Mae’r wobr yn cydnabod rhagoriaeth a thalent sy’n dod i’r amlwg ym maes ymchwil cysylltiedig â lipidau, mewn unrhyw faes sy’n ymwneud â pheirianneg a’r gwyddorau bywyd a ffisegol.
Dywedodd Kirstie: “roedd yn fraint bod fy ymchwil wedi cael ei gydnabod drwy gael ei roi ar y rhestr fer. Ar y diwrnod [y digwyddiad] fe gefais gyfle gwych i gyflwyno fy ngwaith i nifer o ffigurau uwch yn y diwydiant, ac i rwydweithio ag ymchwilwyr PhD o’r un anian â mi. Roedd hi hefyd yn ddiddorol dysgu am yr ymchwil gwych sy’n cael ei gynnal mewn meysydd sy’n ymdrin ag agweddau eraill ar wyddoniaeth lipidau. Hoffwn ddiolch i’r trefnwyr am gydnabod fy ymchwil.”
Caiff ymchwil Kirstie ei ariannu’n rhannol gan IMSPEX Diagnostics Ltd, Busnes Bach a Chanolig o Gymru sy’n cynhyrchu’r offer dadansoddi mae hi’n ei ddefnyddio i ddadansoddi olew llysiau. Caiff yr ymchwil ei ariannu hefyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) sy’n dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
I gydnabod ei gwaith ymhellach, mae Kirstie wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei chanfyddiadau diweddaraf mewn cynhadledd ryngwladol fawr ym Melffast sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol a Ffederasiwn Lipidau Ewrop (EuroFedLipid) ym mis Medi 2018. Gofynnwyd iddi hefyd ysgrifennu adolygiad ar gyfer cyfnodolyn o Ffrainc, Oilseeds Crops and Lipids (OCL).
Rhagor o wybodaeth am brosiect ymchwil cydweithredol Kirstie…
Gwybodaeth am Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI)
Mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol yn un o’r prif gyrff sy’n cysylltu ymchwil gwyddonol â’r broses o’i gymhwyso i ddiwydiant er budd y cyhoedd. Ymysg ei chyn-aelodau nodedig mae Marie Stopes, yr ymgyrchydd adnabyddus dros hawliau merched. Roedd hi’n baleontolegydd ac yn ddaearegydd, ac yn 1903, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth yn y DU.