Mae ymchwil ôl-raddedig wedi wynebu rhai rhwystrau sylweddol yn ystod yr amseroedd digynsail hyn. Ond a yw’r pandemig byd-eang wedi dod â chyfleoedd i ymchwilio na fyddent fel arall wedi cyflwyno eu hunain? A yw her Covid-19 wedi agor drysau ac wedi sbarduno ffyrdd newydd o weithio?
Mae KESS 2 wedi lansio menter i ddal a rhannu profiadau cyfranogwyr yn ystod pandemig Covid-19 o bob rhan o Gymru. Nod y straeon hyn yw taflu goleuni ar y tarfiadau a allai fod wedi’i achosi, sut mae cyfranogwyr wedi goresgyn yr heriau ac a yw cyfleoedd newydd wedi dod i’r wyneb o ganlyniad. Yn ei astudiaeth achos ddiweddar gyda KESS 2, dywed Andrew Rogers, myfyriwr o Brifysgol Bangor,
“[Rwyf wedi bod yn] ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel offeryn ar gyfer gweld a fframwaith ar gyfer datblygu [yn y prosiect ymchwil], ac mae prosiect cyffrous newydd wedi datblygu a oedd eisoes yn dangos addewid i ddarparu glasbrint newydd ar gyfer gwasanaethau llesiant. Fodd bynnag, er bod Covid-19 wedi darparu her i’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn cael eu cyflawni, daw eisoes yn weledigaeth ysbrydoledig o’r newidiadau a fydd angen cael eu gwneud drwy’r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
O’m persbectif i, nid yw pandemig y Covid-19 wedi ymyrryd â hyn, mae wedi’i wneud hyd yn oed yn bwysicach.”
Ychwanegodd yr Athro Paul Brocklehurst, Athro mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor a goruchwyliwr academaidd KESS 2 ar gyfer prosiect Andrew,
“Mae datblygu dealltwriaeth ynglŷn â sut mae gwahanol raglenni datblygu cymunedol yn gweithio yn allweddol i ddull iechyd cyhoeddus sy’n grymuso pobl Gogledd Cymru. Bydd gwerthusiad realaidd Andrew yn ceisio disgrifio ‘beth sy’n gweithio, ar gyfer pwy, sut a pham ac ym mha amgylchiadau’. O gofio dyfodiad Covid-19, bydd hefyd yn archwilio effaith y pandemig a sut mae gwahanol raglenni wedi addasu i’r her hon, gan dynnu allan yr elfennau allweddol sy’n hwyluso datblygiad cymunedol, er mwyn helpu i gryfhau mentrau yn y dyfodol er mwyn gwella iechyd drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”
Cyhoeddir casgliad o straeon ar-lein dros amser wrth i’r pandemig barhau a bydd ar ffurf ymatebion ysgrifenedig, sain a fideo gan gyfranogwyr KESS 2. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cadwch lygad ar y categori Croniclau Covid ar wefan KESS 2 a dilynwch @KESS_Central ar Twitter.
Mae KESS 2 yn awyddus i gasglu llawer mwy o straeon yn ymwneud ag ymchwil ôl-raddedig yn ystod y pandemig. Os ydych chi’n gyfranogwr KESS 2 ac yr hoffech gyfrannu eich stori, e-bostiwch kess2@bangor.ac.uk i gael mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan.