
ANDREW ROGERS
PROFIAD YN HWYR YN EI YRFA I FYFYRIWR YMCHWIL
Cymerais y llwybr hir i gychwyn ar fy ymchwil ar gyfer PhD. Dechreuodd y siwrnai drwy weithio am bum mlynedd ar hugain mewn Iechyd Cyhoeddus; symud i’r sector preifat fel ymgynghorydd busnes; ambell i daith i weithio gyda Sefydliad Iechyd a Byd neu’r Cenhedloedd Unedig yn y Balcanau, Canolbarth Ewrop neu Affrica; a thrwy’r cwbl, roeddwn i’n ddigon ffodus o allu dysgu ar lefel ôl-radd mewn nifer o Brifysgolion.
Er hynny, er gwaethaf yr yrfa gyfoethog hon, roedd gennyf awch academaidd yr oeddwn angen ymdrin ag ef. Anaml y mae rhethreg a realiti mewn iechyd cyhoeddus yn gydnaws ac mae un o’r modelau cefnogi mwyaf damcaniaethol mewn iechyd cyhoeddus, datblygiad cymunedol, yn aml wedi brwydro i gael ei gefnogaeth ymarferol lawn.
Yn ddiweddar, mae wedi dod yn fwy ffasiynol, ond erys cwestiynau heb eu hateb ynglŷn â’i botensial llawn. Mae cyllid drwy KESS 2 wedi fy narparu â’r cyfle i ymdrin o’r diwedd â’r penblethau rhwng damcaniaeth ac ymarfer yr ydw i wedi bod ar eu cyrion drwy gydol fy ngyrfa ac oherwydd hynny fy astudiaeth – mae astudiaeth ymchwil gan realydd ar ddatblygiad cymunedol: beth sy’n gweithio yng Nghymru, i bwy ac ym mha amgylchiadau? yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddyfodol ymarfer iechyd cyhoeddus.
Tra fy mod yn gyffrous fy mod o’r diwedd yn cael y cyfle i gymryd amser i fyfyrio ac ymchwilio i bwnc pwysig a chanolog iawn ar gyfer fy ngwaith hyd yma, nid oeddwn wedi rhagweld ei effaith ddofn ar sut y byddai fy ngwaith presennol hefyd yn cael ei effeithio y tu hwnt i’r ymchwil ei hun a sut y byddai fy mhersona fy hun yn cael ei ailddiffinio.
Mae’r PhD wedi rhoi platfform gwahanol i mi a bu’n ddylanwadol mewn amrediad o brosiectau lle’r oeddwn wedi gweithredu fel ymgynghorydd iddyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda Chomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i asesu cynnydd gan y 44 o gyrff cydymffurfio yng Nghymru tuag at y nodau llesiant, cefnogi Blaenafon i ddatblygu dull o gymunedau iachach, a helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i gipio a rhannu’r gwersi a ddysgwyd ynglŷn â gwydnwch cymunedau yn ystod cam cyntaf pandemig y Covid-19. O’m persbectif i, nid yw pandemig y Covid-19 wedi ymyrryd â hyn, mae wedi’i wneud hyd yn oed yn bwysicach.
Yn flaenorol, wrth ysgwyddo swyddogaethau fel y rhain, byddwn bob amser yn tynnu ar fy mhrofiad ymarferol a’m profiad dysgu fel ei gilydd, ac eto mae rhywbeth yn awr yn weladwy wahanol ynglŷn â sut y mae cleientiaid a rhanddeiliaid ehangach yn fy nerbyn ac nid oes gan hyn unrhyw beth i’w wneud â’m gwallt llwyd a hyd amlwg fy ngyrfa. Mae’r PhD yn rhoi hygrededd academaidd a difrifoldeb nad oedd rhywsut yno o’r blaen, er am ran helaeth o’m gyrfa rydw i wedi cael un droed mewn dysgu addysg uwch a’r droed arall mewn ymarfer.
Mae’r buddion o ymgymryd â PhD ar gyfer yr ymchwiliwr yn gynnar yn ei yrfa yn awr wedi hen sefydlu, ond gallaf hefyd dystio i’r buddion a roddir i’r ymchwiliwr yn hwyr yn ei yrfa, oherwydd nid yw ynglŷn â chwblhau’r hyn sydd heb ei wneud, ond i’r gwrthwyneb gall hefyd ddarparu platfform newydd er mwyn myfyrio ynglŷn â gwersi’r yrfa, crynhoi profiad wedi’i gyfuno â mewnwelediad newydd a’i ddefnyddio i ail-lunio syniadau ar gyfer cyd-destun newydd ar gyfer y presennol a’r dyfodol.
EFFAITH
Drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel offeryn ar gyfer gweld a fframwaith ar gyfer datblygu, mae prosiect cyffrous newydd wedi datblygu a oedd eisoes yn dangos addewid i ddarparu glasbrint newydd ar gyfer gwasanaethau llesiant. Fodd bynnag, er bod Covid-19 wedi darparu her i’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn cael eu cyflawni, daw eisoes yn weledigaeth ysbrydoledig o’r newidiadau a fydd angen cael eu gwneud drwy’r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
Safbwynt Cwmni
“O bersbectif cwmni, mae cael ymchwiliwr yn hwyr yn ei yrfa wedi ychwanegu lefel wahanol o ymgysylltu at y profiad. Mae cymhlethdod rhai o’r rhaglenni wedi gofyn am bersbectif ehangach na allai fod wedi cael ei gyflawni heb yr ehangder o wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cydnawsedd â phrofiadau blaenorol. Mae’r persbectif ehangach wedi herio ac wedi gwella’r “cynhyrchion” sy’n cael eu datblygu ac wedi gosod y datblygiadau mewn cefndir mwy gwydn.”
Glynne Roberts
Cyfarwyddwr Rhaglen, Well Gogledd Cymru
UCHAFBWYNTIAU ANDREW
Er nad wyf ond dwy ran o dair o’r ffordd drwy’r ymchwil, rydw i’n falch ac yn ddiolchgar am y cyfleoedd y mae’r prosiect a KESS2 wedi’u darparu ar fy nghyfer. Yn ystod y ddwy flynedd olaf, rydw i wedi cwblhau cwrs Tystysgrif Ôl-Radd mewn Addysg Uwch, ysgwyddo cyfle dysgu newydd i ailgynllunio deunyddiau cwrs ar-lein ar gyfer y cwrs BA mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac wedi darparu cyngor academaidd ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â’m hymchwil PhD, fel arweinyddiaeth i Ddosbarthiadau Meistr Datblygiad Cymunedol ar gyfer Uned Anghydraddoldebau Maer Llundain (2019); gwaith cynllunio ac ymgynghori ar gyfer Swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn asesu cynnydd wrth weithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol drwy 44 o gyrff sy’n cydymffurfio â rheoliadau (2018/19); ynghyd ag ymgynghorydd i Brosiect Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n ymchwilio i dwf gwydnwch cymunedol yng Nghymru yn ystod cyfnod cyntaf Pandemig Covid-19 (2020).
Yn bennaf oll, rydw i fwyaf balch o’r swyddogaeth a’r cysylltiadau yr ydw i wedi gallu eu gwneud gyda phrosiect lleol drwy ddatblygu’r achos busnes ar gyfer Hyb Llesiant ar gyfer Dyffryn Nantlle. Tarddodd hyn o waith ymgynghorol cymunedol a wneuthum ar ran fy mhartner busnes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, drwy ymateb i’w pryderon bod darpariaeth gofal iechyd yn yr ardal yn cael ei lleihau, yn benodol darpariaeth gofal iechyd drwy’r iaith Gymraeg.
Mae’r ymchwil hwn a gefnogir gan KESS2 wedi agor llawer o ddrysau i mi, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd eraill sydd wedi dod gyda’r ymchwil, fel gweithdai o ansawdd uchel a theithiau astudio, y mwyaf nodedig o’r rhain oedd ymuno â myfyrwyr eraill KESS2 drwy Ewrop mewn Ysgol Ddoethurol Ddiwydiannol Ewropeaidd yn Pardubice, yn Czechia. Roedd y profiad ymdrochol hwn yn teithio a gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr PhD o wahanol wledydd, diwylliannau a disgyblaethau yn fy helpu i fyfyrio ynglŷn â sut i sicrhau bod fy ymchwil yn cadw perthnasedd ehangach y tu hwnt i’m meysydd astudiaethau achos ac anogwyd fi i ganolbwyntio hyd yn oed fwy ar gyfathrebu ei hanfod yn gryno a chydag effaith i bobl eraill.
SBOTOLAU ACADEMAIDD
Yr Athro Paul Brocklehurst
Goruchwyliwr Academaidd KESS 2
Athro mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd
Ymchwiliwr dulliau cymysg yw Paul Brocklehurst ac mae ganddo ddiddordeb mewn iechyd cyhoeddus, cyfnewid swyddogaethau ac aildrefnu gwasanaethau. Yn ogystal, mae ganddo ddiddordeb mewn effeithiolrwydd, effeithioldeb ac effeithlonrwydd y ddarpariaeth GIG a chynllunio gweithlu sy’n seiliedig ar anghenion, yn arbennig mewn perthynas â darparu gofal iechyd geneuol ar gyfer pobl hŷn.
“Mae datblygu dealltwriaeth ynglŷn â sut mae gwahanol raglenni datblygu cymunedol yn gweithio yn allweddol i ddull iechyd cyhoeddus sy’n grymuso pobl Gogledd Cymru. Bydd gwerthusiad realaidd Andrew yn ceisio disgrifio ‘beth sy’n gweithio, ar gyfer pwy, sut a pham ac ym mha amgylchiadau’. O gofio dyfodiad Covid-19, bydd hefyd yn archwilio effaith y pandemig a sut mae gwahanol raglenni wedi addasu i’r her hon, gan dynnu allan yr elfennau allweddol sy’n hwyluso datblygiad cymunedol, er mwyn helpu i gryfhau mentrau yn y dyfodol er mwyn gwella iechyd drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”
Gallwch chi ddarllen proffil academaidd llawn Paul, gan gynnwys rhestr o gyhoeddiadau drwy fynd i: https://research.bangor.ac.uk/portal/en/researchers/paul-brocklehurst(e98d6eb9-1244-4239-9064-ed505e803c23).html

Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm canolog KESS 2 ym Mangor ar: kess2@bangor.ac.uk