Uchafbwynt 2019 : Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2

Annual Event 2019 Winners

Enillwyr gwobrau (o’r brig i’r gwaelod): Rhiannon Chalmers-Brown, Andrew Rogers a Sudesna Shrestha. Gyda diolch i’r Athro Paul Harrison am gyflwyno’r gwobrau.

Ar ddydd Mawrth, 10 Medi 2019, cynhaliwyd y drydydd Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2 yn y Celtic Manor yng Nghaerleon, Casnewydd. Gyda cyflwyniadau 3 munud gan ein cyfranogion KESS 2 a KESS 2 Dwyrain, roedd y noson unwaith eto yn lwyfan i’r ymchwilwyr yma o ledled Cymru gystadlu am gyfle i ennill hyd at ddau wobr KESS 2; y Cyflwyniad Gorau a’r Wobr Cynaliadwyedd. Rhoddwyd trydydd wobr hefyd am gofnodion i’r Gystadleuaeth Delweddau Ymchwil, gyda’r panel beirniadu VIP yn penderfynu ar yr enillydd ymlaen llaw. Hoffwn estyn diolch arbennig i’r Athro Paul Harrison o Brifysgol De Cymru a gyflwynodd y gwobrau ar y noson.

Roedd cyfanswm o 15 cyflwyniad i gyd, ddwbl y nifer ers llynedd, a’u barnwyd ar y noson gan y gynulleidfa yn seiliedig ar feini prawf cyflwyno, eglurder, ymgysylltiad a thystiolaeth o gydweithio. Beirniadwyd meini prawf ychwanegol ar wahân gan Dr Einir Young a Dr Gwenith Elias o’r Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, yn seiliedig ar ba mor dda y mae pob cyflwyniad yn mynd i’r afael â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ (2015).

Rhiannon Chalmers-Brown, myfyrwraig PhD o Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Tata Steel, oedd enillydd y cyflwyniad orau tra enillodd Andrew Rogers, myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Wobr Cynaliadwyedd. Yn derbyn Canmoliaeth Uchel yn y categori Cynaliadwyedd oedd Emma Samuel (ymgeisydd PhD Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio gyda ZERO2FIVE Food Industry Centre), tra cymeradwywyd Aimee Challenger (ymgeisydd PhD Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) am ei chyflwyniad llawn.

Gwelodd y digwyddiad hefyd ddychwelyd y gystadleuaeth Delweddau Ymchwil, y tro yma yn dilyn y thema ‘Effaith’. Sudesna Shrestha, myfyrwraig MRes o Brifysgol Abertawe, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Innoture Ltd., enillodd y wobr am y Ddelwedd Ymchwil Gorau. Ymhlith cymeradwyaeth uchel oedd Sophie Davies (myfyrwraig MPhil Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda chwmni Paned Gymreig/Welsh Brew Tea) ag Amy Williams Schwartz (ymgeisydd PhD Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Eco-explore). Barnwyd y gystadleuaeth ddelwedd yn allanol gan Lisa Matthews-Jones (Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru), Alison Mitchell (Cyfarwyddwr Datblygu, Vitae), a Mererid Gordon (Swyddog Marchnata, Dylunio a Chyhoeddusrwydd KESS 2).

Fel bob amser, mae’r digwyddiad yn arddangos prosiectau ymchwil arloesol sy’n cael eu hariannu gan Gronfa’r ESF ac yn cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd fel rhan o’r rhaglen a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae pob prosiect KESS 2 yn creu cysylltiadau rhwng busnes ac academia a bydd y digwyddiad, a fydd yn parhau i gael ei gynnal yn flynyddol, yn dod â cyfle i bob un o’r grwpiau hyn gysylltu, trafod a dathlu eu prosiectau ymchwil parhaus.

Cliciwch y dolenni isod i weld oriel luniau y digwyddiad, sleidiau’r cyflwyniadau neu’r delweddau ymchwil.