Categori: Digwyddiadau

Myfyrwyr KESS 2 yn rhannu hunlun i ddathlu Diwrnod Ewrop 2017

Mae arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a dderbynnir drwy KESS 2, yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaethau ymchwil lefel-uwch yng Nghymru ar draws amrywiaeth o brosiectau ar y cyd â phartneriaid cwmni. Ar 9 Mai 2017, fe ddathlwyd Diwrnod Ewrop gan ein myfyrwyr KESS 2 drwy rannu #HunlunDiwrnodEwrop gyda ni yn a dweud… Darllen mwy »

Cymerwch ran yn Wythnos Gynaliadwyedd Bangor 2017

Sustainability Week 2017

Bydd Wythnos Cynaliadwyedd Bangor 2017 yn cael ei gynnal o 02.05.17 hyd at 04.05.17 gan partneriaid KESS 2, Y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos, gweler y poster isod neu ewch i wefan Y Lab Cynaliadwyedd am ragor o fanylion am sut y gallwch… Darllen mwy »

Torri Tir Newydd: KESS 2 yn ymddangos mewn casgliad newydd o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at werth ymchwil a datblygu yng Nghymru.

Baneri KESS 2 Banners

Mae KESS 2 yn falch i ymddangos mewn casgliad newydd o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at werth gweithgarwch ymchwil a datblygu prifysgolion Cymru i’r economi yng Nghymru. Y cyhoeddiad Torri Tir Newydd gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a lansiwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 30 Mawrth 2017, yw’r casgliad… Darllen mwy »

KESS 2 yn cipio’r dwbl yng Ngwobrau Business Insider

Enillodd KESS 2, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru, y Wobr Partneriaeth ac enillwyd y Wobr am Broses Newydd gan Dr Steffan Thomas o Brifysgol Bangor Recordiau Sain Cyf/Sain Records Ltd. Roedd hwn hefyd yn brosiect a gyflawnwyd trwy’r cynllun KESS blaenorol a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

Lansiad KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor gan Mark Drakeford AM

Lansiwyd Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 (KESS 2), prosiect £36m a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Llywodraeth Cymru, yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AM ar 26 Gorffennaf, 2016.