KESS 2 yn cipio’r dwbl yng Ngwobrau Business Insider

Enillodd KESS 2 ‘ddwbl’ yng Ngwobrau Partneriaethau Addysg a Busnes 2016 diweddar Business Insider.

Enillodd KESS 2, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru, y Wobr Partneriaeth ac enillwyd y Wobr am Broses Newydd gan Dr Steffan Thomas o Brifysgol Bangor Recordiau Sain Cyf/Sain Records Ltd. Roedd hwn hefyd yn brosiect a gyflawnwyd trwy’r cynllun KESS blaenorol a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

KESS 2 at WalesBEPA Awards 2016

Dr Penny Dowdney, Brian Murcutt, Bryn Jones a Dr Steffan Thomas yn derbyn y Wobr Partneriaeth ar gyfer KESS 2 yng Ngwobrau Partneriaethau Addysg a Busnes 2016.

 

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn gynllun gwerth £36m sy’n cael ei gefnogi gan yr UE i ddatblygu ymchwil ôl-raddedig a sgiliau arloesi mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig. Mae’n gynllun Cymru gyfan pwysig sy’n cynnwys pob un o’r wyth Prifysgol yng Nghymru ac mae’n cael cymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y cynllun KESS llwyddiannus dros ben rhwng 2009 a 2014, mae KESS 2 yn awr yn yr ail rownd gyllido a bydd yn cynnig 645 o ysgoloriaethau yn ystod y chwe blynedd nesaf.

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:

“Rwyf yn falch dros ben bod KESS 2 wedi cael y gydnabyddiaeth hon, mae’n gynllun gwerthfawr sy’n galluogi addysg uwch ledled Cymru i gynnig sgiliau ymchwil a datblygu i raddedigion ac i helpu busnesau a sefydliadau hanfodol Cymru. Mae prosiect KESS gyda Sain, yn enghraifft ardderchog o sut y gall arbenigedd prifysgolion helpu busnesau i dyfu ac i addasu ar gyfer marchnadoedd newydd.”

Meddai Dr Penny Dowdney, Rheolwr Cymru KESS 2:

“Mae’n anrhydedd fawr i KESS 2 i ennill y wobr hon ar ran y prifysgolion sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r cynllun. Mae’n dangos sut y gallwn weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiectau ymchwil sy’n cael effaith bellgyrhaeddol mewn cydweithrediad â phartneriaid busnes lleol.”

Mae prosiect Dr Steffan Thomas yn enghraifft ragorol o fformat llwyddiannus y prosiect. Fel rhan o brosiect KESS, bu Dr Thomas yn ymchwilio’n fanwl i wahanol agweddau ar Recordiau Sain Cyf, gan gynnwys e-farchnata, ymddygiad defnyddwyr, cyfraith hawlfraint, lladrad hawlfraint, modelau busnes newydd sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag edrych ar arferion eraill yn y diwydiant cyfryngau. Ar ôl casglu a dadansoddi’r ymatebion i’r arolwg o 1,500 o bobl, datblygwyd model busnes newydd, a oedd yn addas ar gyfer cwmni cynhyrchu sy’n gweithio mewn iaith leiafrifol. Prif ganlyniad y cydweithredu hwn rhwng Prifysgol Bangor a Recordiau Sain Cyf oedd datblygu gwefan newydd a siop ddosbarthu digidol newydd. Mae’r datblygiad hwn wedi gweld cynnydd o 70% yng ngwerthiant digidol y cwmni yn ystod y 12 mis cyntaf a chynnydd o 15% arall o flwyddyn i flwyddyn wedi hynny.

Meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Recordiau Sain Cyf:

“Mae’r berthynas â Phrifysgol Bangor a Dr Steffan Thomas wedi ein galluogi ni yn Sain i fentro’n hyderus, i drosglwyddo ein cynnwys a’n gwasanaethau i fformatau digidol a lansio Apton, gwasanaeth ffrydio newydd i danysgrifwyr. Mae’r datblygiadau hyn yn hanfodol os ydym ni am sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.”

Mae KEES 2 yn cysylltu busnesau ag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i weithio ar brosiectau ymchwil ar y cyd; mae KESS 2 yn adeiladu ar yr arbenigedd a ddatblygwyd yn ystod cam cyntaf KESS, a’r nod yw meithrin cysylltiadau dyfnach â chwmnïau partner yn ogystal â ffurfio partneriaethau newydd. Mae Ysgoloriaethau KESS 2 yn datblygu sgiliau lefel uwch, agwedd ar y prosiect sydd o fudd i’r holl gyfranogwyr.

Ar hyn o bryd mae 83 o brosiectau KESS 2 ar waith, ac mae 137 wedi cael eu cymeradwyo, ac mae gan bob un gysylltiadau busnes – academaidd cryf gydag ymchwil arloesol yn yr arfaeth. Mae’r ymchwil lefel doethuriaeth cyfredol yn cynnwys prosiectau â chwmnïau partner fel: ConvaTec Ltd  i ddatblygu ‘Gorchuddion gwrthlidiol ar gyfer wlserau diabetig’; Cwmni Da  i werthuso llwyddiant appiau a deunydd digidol Cymraeg a dwyieithog y cwmni; Jellagen; Cultech Ltd; Siemens Healthcare Diagnostics; P&S Nano; Tenovus a llawer mwy.

Gallwch hefyd ddarllen y stori yma ar wefan Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/doctoral-school/newyddion/kess-2-yn-cipio-r-dwbl-yng-ngwobrau-business-insider-29513