Croniclau Covid (Fideo): Ymgymryd ag Ymchwil a Datblygu trwy KESS 2 yn ystod pandemig byd-eang

Yn ddiweddar, gofynnodd KESS 2 i gyfranogwyr sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eu prosiectau ymchwil. Dyma’r ymchwilydd ôl-raddedig Simon Johns, a’i bartner cwmni Gwylan, yn rhannu eu profiadau o barhau â’u Ymchwil a Datblygu a ariennir gan KESS 2 yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Safbwynt Myfyriwr:
Simon Johns, Prifysgol Caerdydd

Rydw i’n astudio MPhil; mae’n werthusiad o adnodd digidol [i blant ysgol uwchradd] i’w ymgorffori i mewn i’r diwrnod ysgol. Mae’r cwricwlwm yng Nghymru’n newid, gyda rhai yn dweud ei fod yn newid eithaf sylweddol, ac yn bendant mae ganddo fwy o bwyslais ar iechyd a lles. Mae’r adnodd y gwnaethom ei greu gyda chwmni Gwylan yn edrych ar helpu plant yn eu harddegau yn ystod y cyfnod cyfnewidiol hwn yn eu bywydau.

Simon yn gweithio o’i swyddfa gartref.

Dechreuais fy astudiaethau yn ôl ym mis Ebrill, sy’n teimlo fel amser maith yn ôl erbyn hyn. Rwy’n cofio dal y trên gartref o Brifysgol Caerdydd gyda llawer o wahanol ffurflenni i ddechrau eu llenwi. Roedd hyn ychydig cyn i’r cyfnod clo ddechrau, ac ers hynny nid ydw i wedi dychwelyd i Gaerdydd. Rydw i wedi gwneud fy holl ymchwil [hyd yn hyn] o gartref. Dwi wedi cael mynediad i lyfrgelloedd ar-lein, wedi cynnal cyfweliadau ar lafar ynghyd ag adroddiadau ar-lein, ac wedi creu gofod swyddfa bach i fy hun yng nghysur fy nghartref, fel rwy’n siŵr bod nifer ohonom wedi gwneud. Rhywbeth yr ydw i wedi gorfod ei ddysgu yw gwahanu gwaith oddi wrth yr amgylchedd cartref, yn enwedig ar gyfer fy lles fy hun.

Rhai o’r rhwystrau y mae [cyfnod clo] Covid wedi’u creu yn fy mywyd ers dechrau’r ymchwil hwn yw cyfathrebu, hynny yw, cyfathrebu’n uniongyrchol gyda chyfoedion a gyda goruchwylwyr. Ydy, mae e-bost yn wych, rydych yn cael ymateb, ond nid yw’n ymateb ar unwaith. Felly mae wedi bod yn anoddach cael atebion i’r cwestiynau bach hynny yr ydych angen gwybod yr ateb iddynt yn gyflym. Gallwch gael mynediad i lawer o adnoddau llyfrgell ar-lein, fodd bynnag, rwy’n meddwl bod rhywbeth eithaf gwerinol a real am gerdded i fewn i lyfrgell a dod o hyd i’r hyn yr ydych ei angen.

Nid yw popeth wedi bod yn negyddol, bu rhai effeithiau cadarnhaol [o gyfnod clo] Covid; er enghraifft, yn y boreau, mae wedi rhoi ychydig o amser i mi ganoli fy hun a thynnu’r holl bethau sydd angen i mi eu gwneud am weddill y diwrnod oddi ar fy ysgwyddau a’u rhoi nhw o fy mlaen, fel y gallaf wneud un peth ar y tro. Mae tîm KESS 2 wedi bod yn hynod gefnogol dros y misoedd diwethaf. Ers dechrau fy ymchwil, mae nhw wedi cynnig llawer o gyfleoedd hyfforddiant i mi ar-lein.

Rydw i’n hoffi’r syniad y tu ôl i KESS 2, ynghylch a chefnogi pobl leol yng Nghymru i ddatblygu mewn gwahanol ardaloedd, ond rydw i hefyd yn hoffi’r syniad o rymuso pobl ieuengach i aros yng Nghymru; i ddatblygu Cymru fel cenedl.

Safbwynt Cwmni:
John Likeman, Prif Swyddog Gweithredol Gwylan

Cwmni bach o Gymru ydym ni, wedi’n lleoli yn Sir Benfro. Un o’r prif bethau a wnawn yw ymchwilio, ac rydyn ni’n darparu datrysiadau newydd i bethau.  Felly, pan wnaethon ni ddechrau darganfod KESS 2, roeddem yn chwilfrydig iawn. Roeddem yn meddwl, ie, mae hynny’n swnio’n dda iawn oherwydd mae’n rhywbeth yr oeddem yn teimlo y gallai ychwanegu i’r hyn y mae’r cwmni’n ei gynnig. Ers cael myfyriwr KESS 2, mae wirioneddol wedi ein agor allan i bartneriaethau, nid yn unig gyda Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd ond prifysgolion ledled Cymru a thu hwnt.

Yn bendant bu buddion economaidd drwy KESS 2. Gallwn weld hynny’n digwydd nawr. Rydym am gael ymchwil llawer mwy manwl, gyda chynnyrch llawer mwy datblygedig o ganlyniad i ymglymiad KESS 2 a’r agwedd ymchwil ohono. Felly, a ydi o’n mynd i effeithio ar ein trosiant mewn modd cadarnhaol? Ydi, yn bendant.


Mae KESS 2 yn awyddus i gasglu llawer mwy o straeon yn ymwneud ag ymchwil ôl-raddedig yn ystod y pandemig. Os ydych chi’n gyfranogwr KESS 2 ac yr hoffech gyfrannu eich stori, e-bostiwch kess2@bangor.ac.uk i gael mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan.