Prosiect arloesol Iachau Clwyfau Diabetig wedi ei ariannu gan KESS 2 yn ymddangos ar Newyddion y BBC ag ar wefan diabetes blaenllaw y DU/UE.

Dr Hongyun Tai - BBC Cymru Fyw

Mae prosiect PhD a ariennir gan KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gydnabod fel bod yn ‘arloesol’ wrth gael ei chynnwys mewn erthyglau ar wefan newyddion y BBC ac ar Diabetes.co.uk, y gymuned ar-lein fwyaf ar gyfer diabetes yn Ewrop.

Wrth elwa o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy KESS 2, mae’r prosiect ymchwil doethur yn cydweithio â phartneriaid chwmni ConvaTec Ltd. ac yn croesi dwy ardal disgyblaeth ym Mhrifysgol Bangor, dan oruchwyliaeth Dr Hongyun Tai yn yr Ysgol Cemeg a’r Athro Dean Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol. Mae’r ymchwil yn gobeithio datblygu hydrogel polymer i’w chwistrellu i helpu gwella clwyfau cronig i gleifion diabetig. Mae Dr Tai wedi ei ganmol fel “prosiect cyffrous iawn”.

Darllenwch y stori gyfan ar Newyddion y BBC: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-36956141

BBC Cymru Fyw: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/37070122

Darllenwch yr erthygl ar Diabetes.co.uk: http://www.diabetes.co.uk/news/2016/aug/development-begins-of-injectable-gel-that-could-heal-diabetic-wounds-96721728.html

Dylech fod yn ymwybodol bod yr erthyglau hyn yn cynnwys delweddau clwyfau.