Galwad am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sydd wedi cael cyllid drwy KESS 2 sy’n cyfuno gofal dementia â thechnoleg clyfar

Smart.Dementia.Wales

Mae Steve Williams, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol De Cymru yn chwilio am bobl i ateb holiadur fel rhan o’r prosiect ymchwil Smart.Dementia.Wales.

Gyda chefnogaeth Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy KESS 2, mae Smart.Dementia.Wales yn brosiect ymchwil sydd wedi cael ei ysgogi gan bosibilrwydd darparu cyfnod hirach o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell i’r rheini sy’n byw â dementia drwy ddefnyddio technoleg ‘clyfar’. Caiff ei ariannu’n rhannol gan bartner cwmni SymlConnect Ltd, sy’n dylunio ac yn datblygu atebion clyfar costeffeithiol er mwyn gallu monitro’n glinigol yn ddidor, gan fynd i’r afael â phryderon y GIG o ran gwella effeithlonrwydd amser clinigol ac ansawdd y gofal sy’n cael ei roi.

Nod yr astudiaethau parhaus ym Mhrifysgol De Cymru ydy datblygu technoleg newydd gyda’r prif nod o helpu pobl i ‘fyw yn dda gyda dementia’ a chadw eu hannibyniaeth cyn hired ag sy’n bosibl. Fel mae Steve yn ei egluro:

SmartWatch

Mae’r astudiaeth yn gobeithio casglu data trwy gyfrwng technoleg clyfar megis ‘Fitbit’

“Mae moeseg defnyddio technoleg i olrhain unigolion sy’n gallu bod yn agored i niwed wedi bod yn destun cryn ddadlau; mae nifer yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio technoleg er mwyn caniatáu cerdded yn fwy diogel, ac mae eraill yn teimlo bod hynny’n mynd yn groes i hawliau dynol. Weithiau bydd pobl sy’n byw â dementia yn dioddef anhunedd ac maen nhw’n tueddu i ‘fynd am dro’ fel mae’r gymdeithas Alzheimer yn ei alw.  Mae perygl amlwg ynghlwm wrth hyn ac mae’n gallu poeni’r gofalwr yn arw.

Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU a bydd y nifer yn codi i dros filiwn erbyn 2025. Bydd hyn yn codi i 2 filiwn erbyn 2051.  Bydd 225,000 o bobl yn datblygu dementia eleni, dyna i chi un person bob tri munud.  Mae ymchwil yn dangos bod 40% yn tueddu i fynd i grwydro, mae 1% yn marw’n gynamserol tra byddant ar goll.

Er mwyn ymateb i hyn, mae prototeip ymchwil wedi cael ei ddatblygu sy’n dysgu beth sy’n ‘normal’ i rywun drwy olrhain a defnyddio data Fitbit. Y nod ydy datblygu’r meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial hwn ymhellach er mwyn iddo nid yn unig dysgu, ond adnabod pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth nad yw’n ei wneud yn arferol.  Ar ôl iddo gael ei brofi bydd yr algorithm terfynol yn cadw hawl yr unigolyn i gadw gwybodaeth yn breifat tan achos o’r fath.  Os bydd hyn yn digwydd, byddai modd defnyddio lleoliad y person a’u cyflwr ffisegol er mwyn dod o hyd iddyn nhw’n gyflym.

Mae’r prosiect yn gwahodd pobl i lenwi holiadur, yn ogystal â chynnig cyfle i gymryd rhan bellach drwy ddefnyddio technoleg Fitbit a Google Timeline. Ein nod ydy casglu safbwyntiau amrywiol ar bwnc preifatrwydd a defnyddio’r data a fydd wedi’i gasglu i brofi ein halgorithm Deallusrwydd Artiffisial.”

Cymerwch ran yn yr astudiaeth!

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil Smart.Dementia.Wales, ac am sut gallwch chi gymryd rhan, ar gael yn http://sd-w.ddns.net/

 

ESF Logo Syml Connect Ltd.