Dydd Mercher, 9 Mai 2018, fe ddathlodd cyfranogwyr KESS 2 Diwrnod Ewrop trwy fynd â’r cyfryngau cymdeithasol i rannu’r buddion y mae arian yr UE yn eu darparu ar gyfer eu hastudiaeth lefel ddoethuriaeth yng Nghymru. Dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae KESS 2 yn hwyluso prosiectau ymchwil cydweithredol rhwng prifysgolion a busnesau ledled Cymru ac mae’n cael ei gefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru.
Drwy gydol Diwrnod Ewrop, roedd y cyfranogwyr yn postio lluniau ar Twitter gan ddefnyddio’r tagiau #DiwrnodEwrop a #EUFundsCymru, gan rannu gyda ni gipolwg o’u hymchwil a dangos beth mae arian yr UE yn eu galluogi i gyflawni fel rhan o KESS 2. Roedd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ddigwyddiad llwyddiannus a fe bu llawer o weithgarwch ymgysylltu cadarnhaol.
Mae’r map rhyngweithiol uchod yn dangos ble mae’r arian hwn yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Gallwch glicio drwy’r pinnau i weld lluniau a datganiadau, a anfonwyd gan ein cyfranogwyr, a darganfod mwy am y prosiectau cyffrous sy’n digwydd yng Nghymru diolch i Arian yr UE.