Tai pysgod: adeileddau riff artiffisial yn adfer cwrelau y môr

Mae riffiau cwrel yn gynefinoedd trofannol wedi’u gwneud o gwrel byw sy’n ffynnu yn nyfroedd cynnes y byd. Yn anffodus, oherwydd cynhesu byd-eang, mae’r cwrelau cain hyn yn cael eu difrodi ac mae’r cynefin y maent yn ei greu yn troi’n rwbel. Mewn ymateb i hyn, mae llawer o brosiectau ymchwil wedi’u cychwyn sy’n canolbwyntio ar adfer cwrelau ac ailadeiladu riffiau. Mae Dr Kathryn Whittey, cyn-fyfyrwraig KESS 2 sydd newydd raddio, yn un ymchwilydd o’r fath. Yn 2019, arweiniodd Kathryn dîm yn y gwaith o ddylunio a defnyddio strwythurau riff artiffisial gan geisio adfer y cynefin hanfodol hwn i’r amgylchedd morol.

Yn ystod y prosiect creodd Kathryn a’i thîm y strwythurau artiffisial, a elwir yn dai pysgod, trwy arllwys concrit o amgylch tegan Space Hopper. Darparodd siâp crwn mawr y tegan y ffurf perffaith ailddefnyddiadwy o adeiladu’r tai pysgod. Yna defnyddiwyd y tai pysgod yn y cefnfor, yn yr achos hwn oddi ar arfordir Tobago, er mwyn ceisio creu sylfaen gadarn i riffiau cwrel ailsefydlu eu hunain.

Dair blynedd yn ddiweddarach, dychwelodd Kathryn i ymweld â’r tai pysgod a gwelodd bod y cwrelau wedi tyfu’n llwyddiannus iawn gyda llawer o greaduriaid yn defnyddio’r strwythurau fel cartrefi. Mewn cyfweliad ag Aled Hughes ar Radio Cymru, bu Kathryn yn siarad am ei phrofiad o ddychwelyd i weld y tai pysgod ar waith.

Dywedodd Kathryn,

“Braf oedd gweld faint mae’r cwrelau wedi tyfu ar y tai pysgod. Maent wedi ffurfio haenau rhwng y tai ac mae creaduriaid yn byw rhwng yr haenau hynny hefyd. Roeddwn i eisiau gallu gweld y tu mewn i’r strwythurau ac roeddwn yn falch iawn o weld algâu pinc yn tyfu yno, sy’n rhywbeth nad oeddem yn gallu ei weld o luniau neu fideos. Mae’r algâu yn bwysig iawn i’r riff oherwydd ei fod yn creu negeswyr cemegol sy’n denu cwrel. Mae hwn yn gynnydd rhagorol gan ein bod yn gwybod y bydd y cwrel yn gallu setlo ar y tai pysgod oherwydd yr algâu pinc sydd yno eisoes.”

Trwy waith Kathryn ar ryngweithiadau pysgod riffiau cwrel, mae’n gobeithio datgelu pwysigrwydd cynefin a nodi pa strwythurau penodol sydd eu hangen ar bysgod i gyflawni eu hymddygiad naturiol. Mae’r berthynas rhwng cynefinoedd ac ymddygiad pysgod yn arbennig o berthnasol i les pysgod a gallai fod yn gymwys i bysgodfeydd Cymru, gan wella mentrau dyframaethu yn y dyfodol.

Dolenni

Gwrandewch eto ar gyfweliad Kathryn ar BBC Radio Cymru (eitem yn cychwyn am 39:00) https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m0019x7y

Gallwch hefyd ddilyn gwaith Kathryn ar gyfryngau cymdeithasol: https://www.instagram.com/kathwhittey