Mae Gwenlli Thomas, myfyrwraig MRes KESS 2 o Brifysgol Bangor, wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf yn yr International Journal of Environmental Research and Public Health (Ffactor Effaith 2.849). Mae’r papur yn archwilio’r dystiolaeth berthnasol â datblygu ymyraethau Presgripsiwn Cymdeithasol sy’n defnyddio dull cyd-gynhyrchiol ac wedi’i gyd-ddylunio er mwyn gwella lles mewn lleoliad cymunedol.
Mae cyd-gynhyrchu yn ddull sy’n gofyn i ddarparwyr gwasanaethau sefydlu perthynas gyfartal gyda defnyddwyr gwasanaeth, boed hynny yn unigolyn, teuluoedd neu gymunedau. Mae cyd-gynhyrchu yn derm sy’n cwmpasu nifer o weithgareddau creu gwasanaeth megis cyd-ddylunio gwasanaethau, cyd-ddarparu gwasanaethau a chyd-asesu gwasanaethau. Mae astudiaethau o wasanaethau wedi’u cyd-gynhyrchu yn dangos cleifion yn cael eu trin fel arbenigwyr ar eu sefyllfa eu hunain, ac felly fel asedau gwybodus. O ganlyniad mae defnyddwyr gwasanaeth (boed yn unigolyn neu gymuned gyfan) yn cael eu grymuso ac yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan leihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae’r dull hwn yn derbyn sylw cynyddol ac yn gweddu gyda gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru o system iechyd holistig sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn.
Fel rhan o’i hymchwil aeth Gwenlli Thomas ati i archwilio’r dystiolaeth o gwmpas defnyddio dull cyd-gynhyrchiol a/neu wedi’i gyd-ddylunio er mwyn datblygu gwasanaeth Presgripsiwn Cymdeithasol (SP) mewn lleoliad cymunedol. Mae ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol yn rhoi’r opsiwn i weithwyr iechyd gyfeirio unigolyn at grwpiau neu wasanaethau lles lleol. Byddant yn gwneud hyn pan fyddant yn gweld bod problem gymdeithasol, economaidd neu ymarferol wrth wraidd problem iechyd meddwl neu gorfforol y claf. Gall y grwpiau neu wasanaethau hyn helpu i leddfu unrhyw broblem sydd yn achosi neu’n gwaethygu problem iechyd unigolyn e.e clwb darllen lle gall unigolyn gyfarfod pobl newydd a thaclo unigrwydd.
Mae’r dystiolaeth a ganfuwyd drwy’r adolygiad systematig yn awgrymu y byddai cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio yn ddull effeithiol o gynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu a gweithredu ymyrraeth SP mewn lleoliad cymunedol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth hefyd yn amlinellu rhai camau sydd angen eu hystyried er mwyn goresgyn rhwystrau a hwyluso’r broses. Caiff y rheini eu trafod yn llawn yn y papur, ond maent yn cynnwys:
- penodi arweinydd i gydlynu’r cyd-gynhyrchu;
- sicrhau cyfathrebu clir rhwng cyd-gynhyrchwyr;
- cyd-werthuso’r ymyrraeth o’r cychwyn cyntaf;
- sicrhau adnoddau digonol i ddarparu’r ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod tynnu ar wybodaeth rhanddeiliaid drwy gyd-gynhyrchu hefyd yn arwain at ymyrraeth sy’n ateb anghenion lles y gymuned o’r cychwyn cyntaf. Roedd canlyniadau lles cadarnhaol ymysg defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys cynnydd mewn hunanhyder a hunanwerth, yn ogystal â lleihad mewn unigrwydd cymdeithasol. Yn unol ag amcan gyd-gynhyrchu, dangosodd y dystiolaeth bod aelodau o gymuned hefyd wedi’u grymuso o fod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cyd-gynhyrchu. Roeddent hefyd yn gwerthfawrogi cael eu trin fel arbenigwyr yn hytrach na defnyddwyr goddefol.
Meddai Gwenlli,
“Dw i’n hynod o falch bod y papur hwn wedi’i gyhoeddi. Dw i’n gobeithio y bydd o fudd i nifer o sefydliadau yn ychwanegol i gwmni partner fy ymchwil, Grŵp Cynefin, sy’n gobeithio cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol yn Nyffryn Nantlle. Dw i’n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwylwyr academaidd Dr Mary Lynch a Dr Llinos Haf Spencer, Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin ac Andrew Rogers o Gwenallt Consulting am fy nghefnogi ac arwain yn ystod fy ymchwil. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i KESS2 am alluogi’r cyfle hwn yn y lle cyntaf drwy ariannu fy ymchwil yn ogystal â fy nghaniatáu i ddefnyddio rhan o fy nghyllideb i dalu am y cyhoeddiad.”
Ychwanegodd Dr Llinos Haf Spencer,
“Mae presgripsiwn cymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi bod o gwmpas ers y 70au, ond gyda’r pwyslais cynyddol mewn gofal iechyd ar sail gwerth (value based healthcare) mae yna fwy o bwyslais ar yr unigolyn a beth sydd yn gweithio orau o ran iechyd a lles i’r person, sydd weithiau yn rhywbeth sy’n wahanol i feddyginiaeth, neu yn rhywbeth sydd yn cyd-fynd gyda meddyginiaeth.
Mae’n bwysig i’r claf fod yn ganolog i’r ymyrraeth a dyna pam mae cyd-cynhyrchu ymyraethau presgripsiwn cymdeithasol mor bwysig, ac mae cydgynhyrchu yn rhoi sail da i’r ymyraethau newydd achos mae lleisiau defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu clywed o’r cychwyn, a gall hynny siapio’r ymyrraeth.”
Yn ogystal, dywedodd Dr Mary Lynch,
“Mae cyhoeddi’r adolygiad systemig hwn sy’n archwilio cymhwyso dulliau cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio i presgripsiwn cymdeithasol yn darparu tystiolaeth wedi’i adolygu sy’n dangos bod y dull hwn o ymgysylltu yn hanfodol er mwyn i ymyriadau presgripsiwn cymdeithasol fod yn effeithiol i’r gymuned. Mae’r canlyniadau a ddarganfuwyd yn yr adolygiad hwn yn cefnogi dull parhaus Grŵp Cynefin o weithio ar y cyd â chymuned Dyffryn Nantlle i ddiwallu eu hanghenion ”.
Gellir gweld y papur cyhoeddedig llawn yma: https://www.mdpi.com/1660-4601/18/8/3896/htm