Dyfarnwyd anrhydedd MBE i David ac Alison Lea-Wilson, sylfaenwyr y busnes Halen Môn yng ngogledd Cymru, yn rhestr anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2019 am eu gwaith yn cefnogi busnes a diwydiant yng Nghymru.
Mae Halen Môn yn gwmni halen môr artisan byd-enwog gyda statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), sydd wedi ei leoli ar arfordir Ynys Môn. Maent yn un o’r partneriaid cwmni KESS 2 mwyaf hirsefydlog, ar ôl cydweithio’n llwyddiannus â Phrifysgol Bangor ar nifer o brosiectau ymchwil lefel doethur ers y rhaglen KESS gyntaf, a ddechreuodd yn 2009.
Mae David ac Alison yn parhau i chwarae rhan weithredol wrth gyfrannu at ymchwil yn y diwydiant yng Nghymru drwy eu cwmni Halen Môn, sydd â dau brosiect cemeg ar waith gyda Phrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Mae’r bartneriaeth, sy’n cael ei hwyluso gan gyllid ESF drwy KESS 2, yn galluogi ymchwilwyr i weithio mewn sector busnes gweithredol, gan roi gwerth byd go iawn i’w hymchwil gwyddonol.
Mae un prosiect o’r fath yn Halen Môn yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldeb byd-eang i fod yn gwmni cynaliadwy drwy ddatblygu sgil-gynhyrchion newydd o wastraff ffatri. Mewn partneriaeth â’r Ysgol Cemeg ym Mangor, mae’r astudiaeth hon yn gweithio ar ddarparu archwiliad cemegol llawn o broses gweithgynhyrchu halen môr, a all wedyn helpu i leihau cynhyrchu gwastraff cyffredinol.
Un maes ymchwil arall y mae Halen Môn yn ei gefnogi yw gofal iechyd a phersonol, gan ymestyn eu diddordeb y tu hwnt i gynhyrchion bwyd artisan. Mae’r prosiect ymchwil penodol hwn yn cydweithio’n agos ag adran ENT Ysbyty Gwynedd i wella lles trwynol pobl drwy hwyluso’r gwaith o ddatblygu cynhyrchion halwynog yn seiliedig ar “foroedd glân”, gyda chwmpas ar gyfer defnydd meddygol yn y dyfodol.
“Mae David a minnau wrth ein bodd fod ein gwaith wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn. Rydyn ni bob amser wedi manteisio’n llawn ar y rhwydweithiau sydd ar gael i ni drwy’r Brifysgol. Mae’r adran Cemeg a’i rhaglenni KESS 2 wedi bod yn allweddol o ran ein helpu ni i ddechrau ein busnes, gan ein gwneud ni’n fwy effeithlon a’n galluogi i ni arallgyfeirio” meddai Alison Lea-Wilson.
Gweler hefyd: https://kess2.ac.uk/cy/kess-2-company-partner-halen-mon-receive-the-queens-award-for-sustainable-development-accolade/
Cydnabyddiaethau’r Prosiect Ymchwil:
“Dadansoddiad manwl o gynhyrchu halen, crisialu a diogelu cynaliadwyedd yn Halen Môn”
Ysgol Cemeg, Prifysgol Bangor.
Charlotte Booth, Dr Leigh Jones, Dr Vera Fitzsimmons-Thoss a Halen Môn.
“Proffilio elfennau mewn mwcws trwynol dynol arferol a phatholegol.”
Ysgol Gwyddorau Naturiol (Cemeg), Prifysgol Bangor.
Eluned Hudson, Dr Loretta M. Murphy, Mr David Hill (ENT Ysbyty Gwynedd) a Halen Môn.