Jessica Hughes yn hyrwyddo ymgyrch urddas mislif “Nid yw’n Rhwystr”

Mae Jessica yn fyfyriwr a ariennir gan KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor ac yn ysgrifennu yma am ei chysylltiad ag ymgyrch newydd dros urddas mislif, “Nid yw’n Rhwystr”.

Trwy fy ymchwil gyda KESS 2 a fy mhartneriaeth gyda Rygbi Gogledd Cymru, cymerais ran yn ymgyrch iechyd a lles y chwaraewyr rygbi gyda Grwp Llandrillo Menai (GLLM) a elwir yn “Nid yw’n Rhwystr”. Mae wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o Urddas Mislif ac atal tlodi mislifol ymysg myfyrwyr gan anfon dros 1800 o fagiau o gynhyrchion mislif am ddim a darparu cyngor ar sut i reoli poen ac anghysur, ochr yn ochr ag adnoddau ymarfer corff canmoliaethus am ddim y gall myfyrwyr eu gwneud gartref yn ddiogel. Fel un o’r llysgenhadon ar gyfer “Nid yw’n Rhwystr” , fe wnes i gyfweliad yn trafod sut y gall gweithgaredd corfforol helpu i leddfu symptomau mislif ac na ddylai atal menywod rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Darlledwyd lansiad rhithwir gyda Sport Wales a Cholegau Cymru ar 9fed Rhagfyr 2020, lle trafodais bwysigrwydd sut y gall hunanofal trwy weithgaredd corfforol helpu ein lles cymdeithasol ac emosiynol a chynorthwyo dysgu. Yn ogystal, hyrwyddodd y lansiad bedwar maes allweddol yr Ymgyrch Iechyd a Lles; 1) Aros yn Egnïol ac yn Iach, 2) Gwella Lles Cymdeithasol ac Emosiynol, 3) Gofalu am yr Amgylchedd, a 4) Cadw’n Ddiogel.

Roedd yn anrhydedd llwyr bod yn rhan o’r ymgyrch “Nid yw’n Rhwystr”, i hyrwyddo iechyd a lles menywod ifanc a normaleiddio tabŵs mislif. Mae’n wych gweld Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi ac yn ysbrydoli eu dysgwyr gydag agwedd ragweithiol tuag at y mislif ac addysg. Mae’r coleg hefyd yn cynnig cyfleoedd a gwasanaethau fel sesiynau ffitrwydd rhithwir am ddim, atgyfeirio ar-lein ar gyfer llesiant a chymorth meddyliol ynghyd â chalendrau llesiant misol sy’n cynnig gweithgareddau a gwybodaeth i’w dysgwyr.


Mae’r ymgyrch “Nid yw’n Rhwystr” sydd yn cael ei gynnal gan Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) yn canolbwyntio a’r iechyd misglwyf a lles actif eu dysgwyr. Maent yn rhan o’r rhaglen urddas misglwyf sy’n hyrwyddo pwysigrwydd gweithgareddau corfforol fel ffordd o gael lles gan symptomau misglwyf. Mae’r gan y coleg gwasanaethau iechyd a lles arbennig ar gael, sy’n ffocysu ar les ffisiolegol, emosiynol a cymdeithasol y dysgwyr, ac maent wrthi’n codi ymwybyddiaeth ynghylch tlodi misglwyf ymysg merched ifanc. Roedd yna amrywiaeth o athletwyr a modelau rôl fenywaidd ardraws Gogledd Cymru wedi cymryd rhan mewn sawl cyfweliad i rannu ei phrofiadau misglwyf nhw a sut maent yn rheoli mislif wrth hyfforddi. Yr amcan oedd helpu myfyrwyr rheoli eu mislif yn hyderus, a normaleiddio tabŵs mislifol, ac i leihau’r nifer o ddiwrnodiau addysg a gweithgareddau corfforol sy’n cael ei fethu oherwydd mislif. Mae GLLM wedi darparu cynnyrch misglwyf am ddim yw dysgwyr. Roeddynt yn cynnwys cyngor ar sut i reoli anghysur mislifol ynghyd a adnoddau ymarfer corff.

Lansiwyd yr Ymgyrch dros y cyfryngau cymdeithasol (Instagram, Twitter a Facebook). Dyma’r ddolen ar gyfer y lansiad byw gyda Sport Wales, Colegau Cymru a llysgenhadon ymgyrchu gan gynnwys Jessica Hughes, yn trafod pwysigrwydd hunanofal trwy weithgaredd corfforol a all helpu lles cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr. Mae cyfweliad Jessica yn dechrau tua. 17 munud. https://fb.watch/2gszQwlWOb/

Gellir dod o hyd i ragor o straeon gan ddefnyddio’r hashnodau #nidywnrhwystr ac #itwontstopus