Aelodaeth IOM3 am ddim i holl Ymchwilwyr Ôl-raddedig KESS 2 & KESS 2 Dwyrain ledled Cymru!

An image promoting free membership with text and logos.

Mae KESS 2 wedi negodi i’n holl ymchwilwyr ôl-raddedig gael mynediad i aelodaeth AM DDIM gyda’r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Mae IOM3 yn sefydliad gwyddoniaeth a pheirianneg mawr yn y DU ac yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol. Maent yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym meysydd deunyddiau, mwynau, mwyngloddio a disgyblaethau technegol cysylltiedig i ddod yn arwyr y trawsnewid i gymdeithas carbon isel sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon.

Mae eu gweithgareddau yn hyrwyddo ac yn datblygu pob agwedd ar y Cylch Deunyddiau, o archwilio a thynnu, i nodweddu, prosesu a chymhwyso, i ailgylchu cynnyrch, ailbwrpasu ac ailddefnyddio.

“Mae cyfle gwych wedi codi i ganiatáu i holl Ymchwilwyr Ôl-raddedig PhD a Meistr Ymchwil KESS 2 ddod yn aelodau o’r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio. Mae KESS 2 wedi gweithio gydag IOM3 i ganiatáu i bob myfyriwr ddod yn aelod o’r Athrofa heb unrhyw gost iddynt eu hunain.

Mae’r Sefydliad yn cynnig y cyfle i ryngweithio ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ar draws trawstoriad eang o wyddoniaeth, deunyddiau a pheirianneg. Gyda chymunedau technegol, themâu trawsbynciol amrywiol a grŵp aelodau ifanc gweithgar iawn (sydd â’r calendr cymdeithasol gorau yn y Sefydliad!!) mae’n gyfle gwych i ryngweithio y tu allan i’ch prifysgol.

Mae aelodaeth o’r Sefydliad wedi arwain at gyfleoedd gwaith, cyfleoedd ymchwil pellach a chyfeillgarwch gydol oes o bedwar ban byd.”

Dr Graham Ormondroyd FIMMM (Goruchwyliwr Academaidd KESS 2 Prifysgol Bangor)
Pennaeth Ymchwil Defnyddiau, Canolfan Biogyfansoddion : g.ormondroyd@bangor.ac.uk


Sut i hawlio eich aelodaeth am ddim:

Manteision ymuno:

Bydd eich aelodaeth yn cael ei dosbarthu o dan y Pecyn Myfyrwyr Ôl-raddedig (Postgraduate Student Package), sy’n cynnwys llawer o fanteision megis:

  • Fersiwn print am ddim a mynediad ar-lein i gylchgrawn Materials World neu Clay Technology.
  • Cyfraddau is ar ddigwyddiadau, cyrsiau hyfforddi a ffioedd cyhoeddi.
  • Cyfraddau is ar seminarau sgiliau meddal a ffioedd cynadleddau aelodau iau.
  • Cymhwysedd i wneud cais am grantiau teithio a bwrsariaethau myfyrwyr.

Mae gennych hawl hefyd i wneud cais am:

  • Cerdyn Hyfforddai Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS).

Yn ogystal â’r holl fuddion arferol i aelodau, mae ôl-raddedigion hefyd yn awtomatig yn aelodau o’r Grŵp Myfyrwyr a Gyrfa Gynnar sy’n dilyn eu gweithgareddau eu hunain ac sydd â’u cylchlythyr eu hunain.

Mae’r holl fuddion eraill i’w gweld ar wefan IOM3 yn https://www.iom3.org/membership/why-join-iom3/membership-benefits.html


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Penny yn uniongyrchol: p.j.dowdney@bangor.ac.uk