Rydym yn gwybod ers peth amser bod anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn.
Mae’r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae’n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i’r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes.
Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin â’r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, daeth project ymchwil PhD i’r casgliad bod seicoleg gadarnhaol – astudio cryfderau a rhinweddau sy’n helpu pobl i deimlo’n dda yn feddyliol – yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.
Un peth pwysig iawn a welwyd oedd bod pobl gydag amcanion penodol ac arwyddocaol mewn bywyd yn fwy tebygol o ymddwyn yn iach yn gorfforol, hyd yn oed os nad oedd yr amcanion hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’u hiechyd corfforol.
Roedd y project hwn, a ddechreuwyd yn 2016, yn un o’r cyntaf o’i fath, a chafodd ei ariannu ar y cyd gan Awyr Las, ac Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS 2).
Meddai Dr Rhi Willmot, a arweiniodd y PhD:
“Mae’r canlyniadau’n awgrymu y gall dulliau sy’n helpu pobl i wella eu lles meddyliol, fel cadw dyddiadur adfyfyriol a gosod amcanion, gefnogi ymddygiad ffordd iach o fyw hefyd. Roedd yn bleser cael bod yn rhan o’r cydweithrediad hwn ac ymchwilio i sut y gellir lleddfu baich sylweddol cyflyrau iechyd a achosir gan ffordd o fyw.”
Dywedodd yr Athro Rob Atenstaedt, ymgynghorydd mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus yn nhîm iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Mae hwn yn faes astudio academaidd sydd wedi bod yn galw am fwy o ymchwil. Credaf fod y project hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i dystiolaeth newydd. Bydd ein tîm yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio’r canfyddiadau ym maes ymarfer iechyd cyhoeddus bob dydd yng Ngogledd Cymru.”
Dros gyfnod o dair blynedd, cynhaliwyd chwe astudiaeth gyda chyfranogwyr o’r gymuned leol, rhedwyr yn Parkrun Penrhyn , a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y rhain yn cynnwys ymchwilio i’r ymarfer o gadw dyddiadur a fwriadwyd i’w helpu i nodi amcanion personol pwysig, a thasg a oedd yn cynnwys meddwl am y byd mewn termau ‘lefel isel’ neu ‘ddarlun ehangach’, cyn gwneud penderfyniadau am fwyta ac ymarfer corff.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, a oruchwyliodd y project:
“Mae canlyniadau’r PhD hwn yn gyfraniad pwysig a gwreiddiol i’r sylfaen wybodaeth ddamcaniaethol a datblygu polisi cyhoeddus. Rwy’n gobeithio y gall y cydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru barhau er mwyn creu dealltwriaeth lawn ac arloesol am wyddoniaeth ac ymarfer.”
Meddai Penny Dowdney, Rheolwr KESS 2 Cymru: “Mae’n rhoi boddhad mawr i mi weld canlyniadau’r ymchwil gydweithredol hon, a ariennir gan KESS 2, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Dyma enghraifft wych o ymchwil gydweithredol yn gweithio’n dda”.
Gallwch ddarllen adroddiad byr am y gwaith yma.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan newyddion Prifysgol Bangor ar 22 Ionawr 2020:
https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/seicoleg-gadarnhaol-dull-newydd-o-hyrwyddo-ymddygiad-iach-42971