Rhowch y rhodd o gyfle i chi’ch hun eleni a gwnewch gais am ysgoloriaeth Meistr Ymchwil wedi’i hariannu’n llawn!

Y cyfleoedd prosiect penodol hyn yw’r rhai olaf sydd ar gael drwy KESS 2 Dwyrain, felly beth am wneud 2023 yn flwyddyn i’w chofio drwy roi hwb i’ch gyrfa ac arbenigedd academaidd gyda phrosiect ymchwil sy’n gweithio ar y cyd â phartner cwmni byd go iawn.

Ond brysiwch, bydd y prosiectau hyn yn cychwyn ym mis Ionawr 2023 felly peidiwch â cholli’ch cyfle i ennill Meistr Ymchwil KESS 2 Dwyrain AM DDIM!

Os oes gennych chi, neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod (ffrindiau, cydweithwyr, teulu) ddiddordeb mewn ymgymryd ag un o’r cyfleoedd gwych hyn, gallwch weld rhestr o’r holl brosiectau sydd ar gael yn: https://kess2.ac.uk/cy/category/scholarship-vacancies/

Mae cyflogau blynyddol wedi’u codi i gwrdd â gofynion costau byw, ac mae pob ysgoloriaeth yn cynnwys cyllideb teithio a threuliau ychwanegol yn ogystal â hyfforddiant ychwanegol, cyfleoedd trawswladol, ac Ysgolion Graddedigion preswyl.

Mae cyfyngiadau cymhwysedd yn berthnasol, gweler y wybodaeth a nodir ar bob hysbyseb unigol neu e-bostiwch kess2@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth.