Prof. Graham Ormondroyd
Cwblhaodd Graham ei PhD (Gwyddoniaeth Coed) ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi bod yn Bennaeth Ymchwil i Ddeunyddiau yn y Ganolfan Biogyfansoddion ers 18 mlynedd ac yn Ddarllenydd mewn Deunyddiau Bioseiliedig ers mis Chwefror 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ysgrifennu llawer o gynigion prosiect, phapurau a gwneud gwaith masnachol ym mhob agwedd ar wyddoniaeth bioddeunyddiau. Mae gan Graham dros 100 o gyhoeddiadau gan gynnwys papurau a adolygwyd gan gymheiriaid, trafodion cynadleddau, penodau llyfrau a llyfrau wedi’u golygu, mae’n parhau i gyhoeddi’n rheolaidd. Mae hefyd yn Gymrawd o’r Sefydliad Deunyddiau Mwynau a Mwyngloddio, yn aelod o’r Grŵp Ymchwil Rhyngwladol ar Ddiogelu Pren ac yn Gadeirydd y Gymdeithas Technoleg Pren.
Mae gan Graham ddiddordeb mewn cyfieithu’r allbwn gwyddonol i mewn i syniadau y gall pawb eu deall a gwneud cysyniadau’r heriau y mae’r blaned yn eu hwynebu a’r datrysiadau sydd yma ac o gwmpas y gornel yn hygyrch i bawb.
Cyswllt: 01248 383898 / g.ormondroyd@bangor.ac.uk
Dr Morwenna Spear
Gwyddonydd Ymchwil a Hyrwyddwr Themâu Trawsbynciol
Mae Morwenna wedi gweithio yn y Ganolfan Biogyfansoddion ers dros 15 mlynedd, yn cynnal ymchwil i bren ac ystod eang o ddeunyddiau bio-seiliedig. Mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau i ehangu technolegau a phrosesau newydd, cynyddu effeithlonrwydd, lleihau gwastraff ac asesu perfformiad deunyddiau. Mae hi’n gymrawd o’r IOM3, ac yn is-gadeirydd y Gymdeithas Technoleg Pren. Mae Morwenna wrthi’n ymchwilio i driniaethau pren newydd; priodweddau ffisegol, thermol a chemegol pren. Mae hi hefyd yn gweithio ar adeiladau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ac yn ymchwilio i effeithiau amgylcheddol deunyddiau a gwrthrychau fel masgiau wyneb tafladwy ac ailddefnyddiadwy.
Mae Morwenna yn hyrwyddwr cydraddoldeb i Brifysgol Bangor ac yn hyrwyddwr themâu trawsbynciol ar gyfer y prosiect SEEC. Mae ganddi brofiad o gyfathrebu gwyddoniaeth a chynaliadwyedd i academyddion, llunwyr polisi, busnesau a’r cyhoedd yn gyffredinol, ac mae’n mwynhau rhyngweithio mewn digwyddiadau STEM i blant ysgol fel y Pafiliwn Gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyswllt: 01248 382029/ m.j.spear@bangor.ac.uk
Campbell Skinner
Mae Campbell Skinner yn Ddadansoddwr Asesu Cylch Bywyd yn y Ganolfan Biogyfansoddion. Mae wedi gweithio’n helaeth gydag LCA a gwaith ôl troed carbon, mewn meysydd sy’n amrywio o amaethyddiaeth a garddwriaeth, i ddatblygu cynnyrch bio-seiliedig a bioburo. Mae wedi arwain yn llwyddiannus ystod eang o brosiectau ymchwil blaenorol yn seiliedig ar yr LCA a chontractau masnachol. Cyn ymuno â’r ganolfan, bu Campbell yn gweithio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol gan arbenigo mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol a bu’n rheoli ymgynghoriaeth olion traed carbon y Brifysgol, Footprints4Food, lle bu’n ymgymryd â >100 fferm a olion traed carbon cynnyrch bwyd.. Yn ogystal â phapurau a adolygwyd gan gymheiriaid, mae Campbell wedi ysgrifennu dwy bennod llyfr ac wedi siarad yn eang ar LCA, cynaliadwyedd a datblygu cynnyrch bio-seiliedig.
Cyswllt: 01248 382605 / c.j.skinner@bangor.ac.uk
George Roberts
Dadansoddwr LCA
George yw swyddog cymorth Asesiad Cylch Bywyd yn y Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor. Gan fod ganddo ddiddordeb hirdymor mewn gwyddor yr amgylchedd, astudiodd a graddiodd o Brifysgol Bangor gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Daearyddiaeth Ffisegol. Ers ei gyfnod yn gweithio yn y Ganolfan Biogyfansoddion, mae George wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau LCA yn amrywio o bren a chynhyrchion pren, lledr yn seiliedig ar blanhigion, a datblygu cyfrifiannell carbon arloesol ar gyfer un o gyflenwyr pren mwyaf y DU. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymchwilio i effeithiau amgylcheddol masgiau wyneb tafladwy ac ailddefnyddiadwy.
Yn ystod ei astudiaethau prifysgol, datblygodd George ddiddordeb arbennig mewn daearyddiaeth ddynol a ysgogodd ei ddewis pwnc ar gyfer ei draethawd hir ac ymchwiliodd i effeithiau cymdeithasol twristiaeth ar dref arfordirol fechan. Mae’r ymchwil hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i George ar agweddau cymdeithasol LCA. Yn fethodoleg newydd, mae George wedi defnyddio LCA cymdeithasol mewn papur parhaus ynghyd ag LCA amgylcheddol, i asesu effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol pren wedi’i addasu.
Cyswllt: g.e.roberts@bangor.ac.uk