Gweithdai Cynaliadwyedd

Cynlluniwyd Gweithdai Cynaliadwyedd KESS 2 i helpu myfyrwyr KESS 2 i ddeall sut mae eu hymchwil yn cyfrannu at gynaliadwyedd. Rydym yn archwilio hyn yng nghyd-destun y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCC), am mai dyma’r brif fframwaith datblygiad cynaliadwy yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen i hyrwyddo a thrafod cynaliadwyedd a manteision ehangach ymchwil i gymdeithas gyda phartneriaid cwmni yn ogystal â myfyrwyr a’u goruchwylwyr. Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy:

Gweithdai Sefydlu Cynaliadwyedd a Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG)

Rydym yn cyflwyno rhaglen ddiwygiedig o sesiynau sefydlu ar gyfer myfyrwyr presennol KESS 2. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn fuan. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen fisol o sesiynau, ar thema Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i ddarganfod sut mae cynaliadwyedd yn berthnasol i’ch ymchwil, i’ch partner diwydiannol a’r sefydliad academaidd.

Mae’r gweithdy sefydlu yn rhoi sylfaen ar gyfer deall sut mae cynaliadwyedd a’r themâu trawsbynciol yn cael eu wynebu yng Nghymru o fewn Ddeddf y LlCC.

Bydd y gweithdai SDG misol yn cymryd un nod datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig y mis, ac yn cynnwys astudiaethau achos byr o brosiectau KESS 2 a KESS 2 East. Bydd cyfle i archwilio sut mae eich ymchwil yn cyfrannu at y nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol a’r Gymru yr ydym i gyd ei heisiau. Byddwn yn gwahodd siaradwyr arbenigol, ac yn cynnwys ysgolheigion KESS 2, yn rhoi astudiaethau achos o’u hymchwil i archwilio sut mae SDG y mis yn cael ei gyflwyno drwy’r rhaglenni ymchwil gweithredol. Darllenwch fwy am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r dyfodol.

Nid ydym yn gallu cynnig Gweithdai Cynaliadwyedd KESS 2 wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am sesiynau sydd i ddod.


Adnoddau