Ddydd Iau 27 Gorffennaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, roedd KESS 2, prosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cyflwyno gwobrau i dri enillydd cystadleuaeth mewn noson ddiddorol o gyflwyniadau byw ac arddangosfa o Ddelweddau Ymchwil, yn dwyn yr enw ‘Creu Tonnau’. Daeth myfyrwyr, cwmnïau a phobl o’r byd academaidd i’r digwyddiad a dangoswyd… Darllen mwy »
Tag: PhD
Myfyrwyr KESS 2 yn rhannu hunlun i ddathlu Diwrnod Ewrop 2017
Mae arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a dderbynnir drwy KESS 2, yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaethau ymchwil lefel-uwch yng Nghymru ar draws amrywiaeth o brosiectau ar y cyd â phartneriaid cwmni. Ar 9 Mai 2017, fe ddathlwyd Diwrnod Ewrop gan ein myfyrwyr KESS 2 drwy rannu #HunlunDiwrnodEwrop gyda ni yn a dweud… Darllen mwy »
Prosiect Defaid Trydanol wedi ei ariannu gan KESS 2 yn ymddangos ar BBC Countryfile i dynnu sylw at astudiaeth arloesol mewn cynhyrchiant amaethyddol yn Eryri
Ar Ddydd Sul, 12 Mawrth 2017, fe ymddangoswyd myfyrwraig PhD KESS 2 Pip Jones (Prifysgol Bangor) gyda’i ‘Dafad Dywydd Drydanol’ ar sioe amaethyddol Countryfile y BBC fel rhan o raglen a oedd yn edrych yn ôl ar ddulliau ffermio yn Eryri dros y 60 mlynedd diwethaf. Mae’r prosiect a gyllidwyd gan KESS 2, sydd wedi… Darllen mwy »
Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl
Mewn byd lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o’n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy’n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno. Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno. Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.