Ar 28 Mehefin 2022, rhannodd Donna Dixon, ymchwilydd a ariannwyd gan KESS 2 o Brifysgol Bangor, ei mewnwelediad ar y defnydd cynyddol o ddyfeisiau gan blant yn ystod y cyfnod clo mewn trafodaeth â Robin Williams a Jennifer Jones ar BBC Radio Cymru.
Nod prosiect ymchwil Donna, o’r enw “Effeithiau iechyd ag ymddygiadol ar fagu plant mewn cartref digidol” yw deall yr effaith mae defnydd rhieni o dechnoleg ddigidol yn cael ar bobl ifanc trwy ymchwilio i’r berthynas rhwng defnydd technoleg y rhieni a defnydd technoleg y plant, eu ymddygiad gwyrdroëdig a’u iechyd meddwl yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae’r prosiect, sy’n astudiaeth draws-adrannol yn cynnwys sampl o 650 o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.
Dywed Donna,
“Mae pryder ynghylch y natur mae defnydd cynyddol o dechnoleg yn eu cael ar amgylcheddau teuluol. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu y gall defnydd rhieni o dechnoleg, lle maent yn defnyddio dyfeisiau yn ystod rhyngweithio â’u plentyn, arwain at effaith negyddol ar y berthynas rhwng y rhiant a’r plentyn a all wedyn arwain at iechyd meddwl gwaelach yn y glasoed fel iselder a phryder neu ymddygiad gwyrdroëdig cynyddol fel ymddygiad ymosodol a seibrfwlio. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall rhieni fod yn modelu’n uniongyrchol arferion technolegol amhriodol sy’n cael eu hailadrodd gan y glasoed, gan arwain at ddatblygu ymddygiadau dyfeisiau digidol caethiwus.”
Mae hi’n ychwanegu,
“O ystyried hollbresenoldeb dyfeisiau digidol ym mywyd beunyddiol, byddai cynghori teuluoedd i roi’r gorau i ddefnyddio’n gyfan gwbl yn afrealistig, fodd bynnag, dylai rhieni fod yn ymwybodol o’u hamgylchedd wrth ddefnyddio dyfeisiau electronig a sut y gall y defnydd hwn effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar iechyd ac ymddygiad pobl ifanc.
Mae technoleg yn esblygu mor gyflym, efallai na fyddwn yn gwybod beth yw’r effaith wirioneddol ar blant a phobl ifanc am flynyddoedd i ddod. Felly, mae angen casglu data’n barhaus i wrthweithio’r effeithiau negyddol posibl y gellir eu hamlygu yn y dyfodol”.
Gellir gwrando ar sioe radio Jennifer Jones “Dros Ginio” eto ar BBC Sounds yn: https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m0018pyv (pwnc yn dechrau am 38:57).