Ddydd Gwener 14 Medi, ymunodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â phobl sy’n cymryd rhan yn KESS 2 i arddangos prosiectau yn y Ganolfan Reolaeth ym Mangor. Dewiswyd rhaglen KESS 2 fel enghraifft dda sy’n dangos manteision Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a chafodd y ddirprwyaeth weld amrywiaeth o brosiectau ymchwil.
Roedd y bore’n gyfle i’r dirprwywyr weld yr amrywiaeth o ymchwil cydweithredol sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa, a chafodd y rhai sy’n cymryd rhan ynddi gyfle i siarad am eu prosiectau gydag aelodau o Lywodraeth Cymru. Roedd yn gyfle gwych hefyd i gael trafodaeth draws-ddisgyblaethol rhwng y rhai a oedd yn bresennol, yr academwyr a’r cwmnïau sy’n bartneriaid.
Dywedodd Julie Morgan AC, “Rydw i’n credu bod hyn yn hynod gyffrous, rydw i wedi mwynhau’n fawr. Mae’r brwdfrydedd dros amrywiaeth mor fawr o brosiectau yn ysbrydoledig, ac rydw i mor falch ein bod ni wedi gallu gweld beth rydych chi’n gallu ei wneud gyda’r arian sy’n cael ei roi i’r doethuriaethau – mae’n ymchwil diddorol iawn, alla’ i ddim credu mor amrywiol yw’r pethau rydyn ni wedi’i weld heddiw.”
Mae llenyddiaeth y digwyddiad yn cynnwys mwy o wybodaeth am y prosiectau a gymerodd ran yn y digwyddiad (PDF)
Hoffai KESS 2 ddiolch i’r ddirprwyaeth am roi o’u hamser i ymweld â’r arddangosfa: Julie Morgan AC, Lowri Owain, Rachel Lewis-Davies, Charlotte Priddy, Rhian Jardine, Ceri Jones, Dai Davies, Sioned Evans ac Aled Wright/Cath Cleaton.