Bu William Kay MRSB yn cwrdd â channoedd o aelodau o’r cyhoedd rhwng dydd Iau 28 Medi a dydd Sul 1 Hydref i drafod ei waith ac i ateb cwestiynau am ei ymchwil fel rhan o’r weithgaredd “Holi Biolegydd” yn ystod digwyddiad ‘New Scientist Live’ 2017.
Bu Cymrodorion ac Aelodau o’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol (RSB) yn ymgysylltu’n ymarferol â’r cyhoedd fel rhan o weithgaredd arddangos y Gymdeithas, ‘Holi Biolegydd’. Daeth miloedd o aelodau o’r cyhoedd i ymweld â’r stondin yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod yn ExCel yn Llundain.
Roedd Will, myfyriwr PhD sy’n cael ei ariannu gan KESS 2 ym Mhrifysgol Abertawe, yn un o’r biolegwyr a fu’n ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â’u hymchwil yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod. Cafodd yr ymwelwyr eu hannog i’w holi: Sut mae tracio anifeiliaid yn helpu i’w hamddiffyn rhag effaith dyn?
Dyma ddywedodd Will am y profiad: “Hwn oedd fy nghyfle cyntaf i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn lleoliad mor hwyliog ac anffurfiol, ac ar y raddfa yma. Roedd yn brofiad anhygoel! Roedd y cyhoedd yn frwdfrydig iawn ac fe wnaethon nhw ymgysylltu’n llwyr â fy arddangosfa fach; roedd yn wych cael cyfle i rannu fy ymchwil. Roeddwn i’n arbennig o falch gweld cynulleidfa amrywiol o bob oed yn cael eu cyffroi gan gymaint o agweddau gwahanol ar fioleg.”
Daeth 30,000 o ymwelwyr o bob cwr o’r wlad i’r arddangosfa wyddoniaeth flynyddol yn Llundain. Fel rhan o’r weithgaredd ‘Holi Biolegydd’, a oedd yn cael ei gynnal am yr ail flwyddyn eleni, mae dros 50 o fiolegwyr wedi bod yn siarad am eu hymchwil gan ddefnyddio offer ac arddangosiadau er mwyn helpu i egluro eu cysyniadau gwyddonol.
Fel rhan o’r rhaglen KESS 2 sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Bangor, mae prosiect ymchwil Will yn elwa o Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gyda diolch i’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol (RSB) am y ffotograffiaeth a’r cynnwys fideo.